Rhestr Awduron Cymru
THOMAS, GWYN
Llwyn Crai, 17 Lôn y Bryn, BANGOR, Gwynedd LL57 2LD
Ffôn: (01248) 362125
Bardd, beirniad, cyfieithydd, golygydd. Ganed ym Mlaenau Ffestiniog ym 1936. Addysgwyd yn Ysgol Sir Ffestiniog, yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Yn ddiweddarach bu'n bennaeth ar yr Adran Gymraeg ym Mangor, tan ei ymddeoliad. Yn 2006 cafodd ei gyhoeddi yn Fardd Cenedlaethol Cymru. Mae ef hefyd yn Gymrawd yr Academi Gymreig.
Mae ei gyfieithiad o straeon y Mabinogion i'r Saesneg yn profi ei ddawn fel cyfathrebwr medrus a disglair yn y ddwy iaith. Cafodd y gyfrol hon ei hysgrifennu ar y cyd gyda'r academydd, Kevin Crossley-Holland. Yn academydd o'r radd flaenaf, mae Thomas hefyd yn ysgrifennu i blant. Yn ddiweddar cyhoeddodd - yn y Gymraeg a'r Saesneg - llyfr yn dilyn hanes y Brenin Arthur, yn cynnwys darluniau gan Margaret Jones.
Fel bardd, mae Gwyn wedi cyhoeddu 16 cyfrol o farddoniaeth - yr un cyntaf, Chwerwder y Ffynhonnau, yn 1962 ag un o'r rhai mwyaf diweddar, Apocalups Yfory yn 2005. Ceir sawl cyfieithiad o'i farddoniaeth, gan gynnwys Gwyn Thomas, Living a Life: Selected Poems, cyf. gan Joseph P. Clancy a Gwyn Thomas (Bridges Books, Amsterdam 1982). Fel beirniad llenyddol a diwyllianol, mae Gwyn wedi cyhoeddi sawl cyfrol o draethodau, beirniadaethau a chyfieithiadau, gan gynnwys y llyfr arloesol, Y Traddodiad Barddol - astudiaeth ddofn o draddodiadau barddonol Cymru.
Fel cefnogwr brwd o'r diwydiant ffilmiau yng Nghymru, mae Gwyn wedi aros ar flaen unrhyw ddatblygiadau newydd yn y maes hwnnw. Ef sy'n gyfrifol am ddatblygu technegau arloesol yn cyfuno barddoniaeth a ffilm, a cheir enghraifft cynnar o'r gwaith hwn yn ei gerdd ar gyfer y teledu Cadwynau yn y Meddwl (wedi'i hysgrifennu ar gyfer Martin Luther King). Ymddangosodd wrth ochr actorion a cherddorion rhyngwladol o Gymru - gan gynnwys Ioan Gruffudd, Matthew Rhys a John Cale - yn y ffilm Dal Yma: Nawr (2001). Ef hefyd oedd yn gyfrifol am addasu straeon y Mabinogion ar gyfer cyfres wedi'i hanimeiddio ar S4C yn 2002.
Bu Gwyn yn Fardd Cenedlaethol Cymru o 2006-2008. Cyhoeddwyd cyfrol newydd o farddoniaeth gan Barddas yn 2010.
Enwyd Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet (Barddas, 2010) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011.
Mae hawlfraint y llun uchod yn perthyn i Owain Llyr.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Barddoniaeth:
Chwerwder yn y Ffynhonnau
Y Weledigaeth Haearn
Ysgyrion Gwaed
Enw’r Gair
Cadwynau yn y Meddwl (Gwasg Gee, 1976)
Gwelaf Afon (Gwasg Gee, 1990)
Croesi Traeth (Gwasg Gee, 1994)
Symud y Lliwiau
Y Pethau Diwethaf a Phethau Eraill (Gwasg Gee, 1994)
Am Ryw Hyd (Gwasg Gee, 1996)
Darllen y Meini (Gwasg Gee, 1998)
Anifeiliaid y Maes Hefyd (gyda ffotograffau Ted Breeze Jones)
Yli (gyda ffotograffau Ted Breeze Jones)
Gweddnewidio (Gwasg Gee, 2000)
Apocalups Yfory (Barddas, 2005)
Teyrnas y Tywyllwch (Barddas, 2007)
Blaenau Ffestiniog (Gwasg Gomer, 2007) gyda’r ffotograffydd tirlun Jeremy Moore
Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet (Barddas, 2010)
I ddarllen adolygiad a phrynu copi cliciwch ar y clawr.
Ffuglen:
Bronco (Cyhoeddiadau Barddas, 2008)
Drychiolaethau (Gwasg y Bwthyn, 2009)
Astudiaethau:
Y Bardd Cwsg a’i Gefndir
Ellis Wynne (Writers of Wales) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984)
Alun Llywelyn–Williams (Pantycelyn, 1988)
Dadansoddi 14
Gair am Air (GPC, 2000)
Y Traddodiad Barddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002)
Dafydd ap Gwilym, Gur wrth Gerdd (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2003)
Cyfieithiadau:
Diwéddgan (Samuel Beckett)
Y Dymestl (William Shakespeare)
Breuddwyd Nos Wyl Ifan (William Shakespeare)
Dafydd ap Gwilym, His Poems
Golygiadau:
Y gyfres: Dramâu’r Byd
Presenting Saunders Lewis (gydag Alun R. Jones)
John Gwilym Jones, Cyfrol Deyrnged
Yr Aelwyd Hon
Gweledigaethau y Bardd Cwsg (gyda Patrick J Donovan)
Rhai Llyfrau Eraill:
Sawl Math o Gath (Gwasg Carreg Gwalch, 2002)
The Story of Dafydd ap Gwilym (Y Lolfa, 2004)
Madog (Y Lofa, 2005)
Madog, the First White American (Y Lolfa, 2005)
Y Mabinogi (addasiad newydd) (Y Lolfa, 2006)
Tales from the Mabinogion (gyda Kevin Crossley–Holland) (Y Lolfa, 2006)
Culhwch ac Olwen (Addasiad newydd)
The Quest for Olwen (gyda Kevin Crossley-Holland)
Taliesin
The Tale of Taliesin (gyda Kevin Crossley-Holland)
Dafydd ap Gwilym
Y Brenin Arthur (Y Lolfa, 2006)
King Arthur (Y Lolfa, 2006)
…………..........
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith
1. Darllen ei farddoniaeth a sôn amdani
2. Llenyddiaeth yn gyffredinol
Oedran y Gynulleidfa: 16-18 ac oedolion. Ar gael: Medi-Mai. Anghenion arbennig: gyda rhai pynciau - taflunydd, teledu a recordydd fideo


