Rhestr Awduron Cymru

MARTELL, OWEN

Ebost: owen@thisisom.com
Gwefan: www.owenmartell.com

Ganed yng Nghaerwysg, magwraeth ym Mhontneddfechan, De Cymru.  Addysgwyd ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Rhydychen.  Cyfnod fel gohebydd chwaraeon i’r BBC. Ef oedd enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2001 efo'r gyfrol Cadw Dy Ffydd, Brawd (Gomer, 2000). Yn 2004, enwebwyd ei gyfrol Dyn yr Eiliad ar gyfer Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn.


Detholiad o Gyhoeddiadau
:
Cadw dy Ffydd, Brawd (Gomer, 2000)
Dyn yr Eiliad (Gomer, 2003)
Dolenni Hud (Gomer, 2008)


Adolygiadau:

"Rhagorol. Ym mhob ffordd.. Ymddengys i Owen Martell gael ysgoloriaeth i ysgrifennu’r nofel yma. Dwn i ddim faint gostiodd hynny i Gyngor y Celfyddydau, ond roedd werth pob ceiniog…Yn fy marn i, peidiwch trafferthu rhoi mwy o ysgoloriaethau unigol i’r nofelydd yma – rhowch bensiwn oes iddo er mwyn inni gael mwy o ddeunydd fel Dyn yr Eiliad."
Grahame Davies, Cymru’r Byd yn trafod Dyn yr Eiliad

"A book of incredible ambition (…) full of piercingly perceptive insight into the games people play. (…) I for one can still hear the quiet music of this writing long after reading it, a prose insistent and sustaining. It’s meditation on the threads and ties that bind us to each other and it makes for a memorable tapestry."
Jon Gower, New Welsh Review

 


Dyn yr Eiliad
Dyn yr Eiliad (Gomer, 2003)
Nofel anarferol a grymus yn archwilio perthynas gymhleth rhwng tri pherson ifanc wrth i ddau ohonynt geisio dadansoddi eu perthynas dair–onglog yn dilyn marwolaeth un o’r tri.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi





……....

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei waith
2. Gweithdai ysgrifennu creadigol

Oedran y gynulleidfa: myfyrwyr ysgolion uwchradd hŷn (blynyddoedd 11-13) / oedolion