Rhestr Awduron Cymru
LÉWIS, ROBYN
’Dwyryd’, Rhodfa’r Môr, Nefyn, PWLLHELI, Gwynedd LL53 6EB
Ffôn: 01758 720484
Ganed y llenor a'r cyfieithydd Robyn Lewis yn Nefyn. Bu hefyd yn gyfreithiwr, yn fargyfreithiwr, yn ddirprwy farnwr, yn gofiadur cynorthwyol (yn Llys y Goron, nid yng Ngorsedd y Beirdd), yn ddarlithydd yn y Gyfraith ac hyd yn oed yn wleidydd a safodd yn ymgeisydd yn ei dro dros ddwy blaid wahanol
Enillodd ddoethuriaeth am ei draethawd ymchwil ar dermau Cymraeg y gyfraith ac a enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhrifwyl Dyffryn Lliw gyda'i gyfrol Esgid yn Gwasgu.
Ef oedd Archerdderwydd Cymru rhwng 2002-2005 (dan yr enw Robyn Llŷn), y Prif Lenor cyntaf i'w ethol i'r swydd. Yn awdur ar tua ugain o gyfrolau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog (gan gynnwys tri geiriadur), mae ei waith hefyd wedi'i gyhoeddi yn Y Cymro, Y Faner, Barn, Taliesin, Daily Post, Western Mail, Llanw Llyn, Y Drafod (Patagonia), Yr Enfys, Ninnau (Gogledd America), Yr Herald ac eraill. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Bwysfilod Rheibus (Gwasg y Bwthyn) yn 2008. Mae ef a'i briod, Gwenan, yn byw yn Nefyn, Llyn ac maent yn hoff o grwydro'r byd.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Geiriadur y Gyfraith: Atodlyfr Cyntaf (Gwasg Gomer, 1996)
A Fu Heddwch? Gorsedd a Steddfod - Y Fifri a'r Digri (Y Lolfa, 2006)
Bwystfilod Rheibus (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Adolygiadau:
"… dyma inni ysgrepan o chwedlau difyr a diddorol a dadlennol fydd at ddant pwy bynnag sydd a rhywbeth i'w ddweud wrth yr Orsedd a'r Eisteddfod." - Yr Athro Gwyn Thomas yn trafod A Fu Heddwch?
"Cynnwys y gyfrol hon gymaint o straeon bach da mae'n anodd gwybod lle i ddechrau dyfynnu a da o beth mai digon i adolygydd yw annog pawb i ddarllen cyfrol hawdd iawn ymgolli ynddi - a dychwelyd ati ar ôl ei rhoi i lawr." - Glyn Evans (Llais Llen, BBC) yn trafod Bwystfilod Rheibus
Bwystfilod Rheibus (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Ceir hanes ei fagwraeth, cerrig milltir ei fywyd, ei ymwneud â gwleidyddiaeth, ei hanes yn sefyll fel ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholaeth Arfon, a'i gyfnod fel archdderwydd Cymru.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Yr Archdderwydd Coll (Portread o Pedrog, 1853-1932)
2. Merched, llenyddiaeth a’r gyfraith
3. Hanes Gorsedd y Beirdd a’r Eisteddfod (i oedolion)
4. Darlun o Orsedd y Beirdd (gyda fideo, i blant ysgol).
Oedran y gynulleidfa: Oedolion (gan gynnwys 6ed dosbarth) / plant ysgol iau (gyda fideo)


