Rhestr Awduron Cymru - Gwybodaeth Bellach
Mwy am Restr Awduron Cymru Llenyddiaeth Cymru
Mae Awduron Cymru yn cynnwys awduron byw sydd naill ai wedi eu geni yng Nghymru neu sydd yn byw yng Nghymru yn bresennol. Mae hefyd yn manylu grwpiau perfformio llenyddol. Mae’r cofnodion yn cynnwys bywgraffiadau¹, lluniau, adolygiadau, llyfryddiaethau, delweddau blaen llyfr a chrynodebau, samplau o waith a linciau i lyfrwerthwyr, manylion cyswllt², mannau blog/gwefanau a ffeiliau sain.
Mae hefyd yn bosib canfod rhagor o fanylion a bywgraffiadau yn uniongyrchol gan yr awdur neu’r cyhoeddwr.
Mae manylion trefnu digwyddiadau ar gael ar dudalenau rhai awduron, gan gynnwys y pynciau maent yn gymwys i’w trafod, darllen, darlithio a gweithdai ac os oes gan yr awdur ofynion arbennig. Am fanylion pellach, ewch yma.
Caiff y tudalennau eu diweddaru’n gyson gan Llenyddiaeth Cymru. Cysylltwch gyda ni os hoffech chi ddiweddaru manylion unrhyw awdur: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266.








