Pwyllgor Aelodau


Catherine MerrimanCatherine Merriman (Cadeirydd – Adran Saesneg)
Nofelydd ac awdur straeon byrion. Ganwyd yn Llundain ac fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Kent, Swydd Caint. Bu’n gweithio fel ystadegydd, darlithydd mewn astudiaethau menywod a gweithwraig amgylchedd. Mae nawr yn diwtor MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg.  Mae wedi cyhoeddi gwaith yn y New Welsh Review, Everywoman, Essentials, ayb., ac wedi darlledu ar Radio 4. Enillodd Wobr Llyfr Prydeinig yn 1992, Gwobr Goffa Ruth Hadden a bu ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 1992.

Damian Walford DaviesDamian Walford Davies (Cadeirydd - Adran Gymraeg)
Bardd, beirniad llenyddol a golygydd. Mae’n Ddarllenydd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ymunodd â’r adran ym 1997. Ef yw cyd-awdur Whiteout (Parthian, 2006), a chyhoeddwyd ei gyfrol gyflawn gyntaf o farddoniaeth, Suit of Lights (un o ddewisiadau ‘Silff Lyfrau’ Cyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer 2010) gan Seren yn 2009. Seren fydd yn cyhoeddi ei gyfrol nesaf, Alabaster Girls, yn 2012. Fel academydd, prif feysydd ei ymchwil yw Rhamantiaeth, y cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, barddoniaeth yr ugeinfed ganrif, a dwy lenyddiaeth Cymru. Ef yw Golygydd Cyffredinol yr Oxford Literary History of Wales, ac roedd yn un o dair beirniad Llyfr y Flwyddyn, 2008.

Gilliams ClarkeGillian Clarke
Bardd, awdur, dramodydd, golygydd, cyfieithydd (o’r Gymraeg) a darlledwraig achlysurol. Llywydd canolfan ysgrifennu Tŷ Newydd yng Ngwynedd, a gydsefydlwyd ganddi yn 1990. Tiwtor MPhil mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg, ac yn diwtor ar ei liwt ei hunan yn ogystal.  Mae’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, Abertawe a Phrifysgol Caerdydd. Mae rhai o’i phrosiectau diweddaraf yn cynnwys Bioverse, cerddi ar gyfer Gerddi Botaneg Cymru 1999–2000; The Blue Man (drama ar gyfer Radio 4); a One Bright Morning, cyfieithiad o’r nofel Tegwch y Bore gan Kate Roberts.
Dafydd John PritchardDafydd John Pritchard
Bardd a fagwyd yn Nant Peris yn Arfon.  Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Dolbadarn Llanberis ac Ysgol Brynrefail Llanrug, ac yna bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Phrifysgol Aberystwyth.  Mae’n gweithio fel Archifydd Cynorthwyol yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Y Cw^ps, a thîm ymryson Ceredigion.  Enillodd Goron yn Eisteddfod Bro Dinefwr 1996.
Ifor ThomasIfor Thomas
Bardd–berfformiwr sy’n gweithio llawn amser fel pensaer yng Nghaerdydd. Awdur y cyfrolau Giving Blood, Bogwiser, The Stuff of Love, Pubic (Red Sharks Press) ac Unsafe Sex (Parthian, 1999). Mae’n ddilynwr (gobeithiol) o dîm pêl-droed Cymru.
Aled Lewis EvansAled Lewis Evans
Bardd ac awdur mewn amrywiol gyfryngau. Cafodd ei eni ym Machynlleth ond mae’n byw yn Rhosllanerchrugog.  Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi gan Barddas ym 1989. Bu’n darlledu am ddeng mlynedd ar radio lleol Sain y Gororau o 1983–1993 ac yn athro wedi hynny yn Ysgol Morgan Llwyd. Fe’i gwobrwywyd deirgwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru: ym 1991 am ei Gyfrol o Gerddi i Bobl Ifainc, ym 1998 am Fonolog, ac ym 1999 am Flodeugerdd o Gerddi addas i’r oedran 12-14.  Cyhoeddwyd ei gyfrol diwethaf, Dim Angen Creu Teledu Yma, eleni.
Delyth George
Awdures nofel a sgriptiau. Yn wreiddiol o Gefneithin yn Sir Gâr, mae hi nawr yn byw yn Gaerdydd ac yn gweithio fel awdur ar y gyfres deledu, Pobol y Cwm. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Gwe o Gelwyddau, yn 2006.
Cary Archard
Ganed ger Aberdâr yn Ne Cymru. Golygydd Poetry Wales rhwng 1980–86, a sylfaenydd Poetry Wales Press, ef yw golygydd cyffredinol cyfrol o waith Alun Lewis. Tan yn ddiweddar dysgodd Saesneg ac Athroniaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Matthew JarvisMatthew Jarvis
Wedi byw yng Nghymru ers 1994, Matthew Jarvis yw Cymrawd Anthony Dyson mewn Barddoniaeth ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Ysgrifwr ac adolygydd, mae’n arbenigo yn natblygiad barddoniaeth Gymraeg yn Saesneg ers y chwedegau. Mae gan Matthew ddiddordeb arbenning mewn ymdriniaethau amgylcheddol â llenyddiaeth. Yn ddiweddar, mae Matthew wedi cyhoeddi nifer o weithiau pwysig gyda Gwasg Prifysgol Cymru, gan gynnwys Welsh Environments in Contemporary Poetry a An Introduction to Welsh Poetry in English, 1965-2005.
Dylan Foster EvansYr Athro Dylan Foster Evans
Prif faes ymchwil Dr Dylan Foster Evans yw llên yr Oesoedd Canol diweddar. Ymddiddora yn arbennig ym marddoniaeth y Gogynfeirdd, Dafydd ap Gwilym a’r Cywyddwyr hyd at gyfnod y Dadeni Dysg. Cyn ymuno â Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, bu ar staff Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth lle roedd yn aelod o brosiect Beirdd yr Uchelwyr 1282-1526. Maes arall y mae’n weithgar ynddo yw barddoniaeth gyfoes, a bu’n un o feirniaid y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a’r Cylch yn 2004.
Kathryn Gray
Bardd a golygydd y New Welsh Review. Derbyniodd Wobr Eric Gregory ym 2001. Mae ei gwaith wedi ymddangos yn The Times Literary Supplement, The Independent a Poetry Wales ymysg eraill. Bu ei chyfrol The Never-Never (Seren, 2004) ar rhestr fer Gwobr T.S. Eliot ar gyfer Barddoniaeth ym 2004: y bardd cyntaf a aned yng Nghymru i gyrraedd y rhestr fer.
Luned Emyr
Dramodydd a sgriptwraig. Graddiodd mewn Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 2002, astudiodd yn y Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Nenmarc. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn 1999, 2001 a 2003. Ers hynny, bu’n ysgrifennu ar gyfer radio, teledu, ffilm a’r theatr.
Belinda Bauer
Ers setlo yng Nghaerdydd, mae Belinda wedi byw yng Nghymru yn hirach nag unrhyw le arall. Enillodd wobr Bafta Carl Foreman ar gyfer ei sgript ffilm gyntaf, 'The Locker Room,' cyn mynd ymlaen i ysgrifennu 'Happy Now' (Ioan Gruffudd, Emmy Rossum). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, 'Blacklands', yn Ionawr 2010. Cafodd y gyfrol ei henwi ar restr fer y 'Debut Dagger Award' (gan fudiad y CWA) ac enillodd wobr y 'Gold Dagger' fel nofel drosedd y flwyddyn yn 2010.