Prosiect Carchardai
Mae’r Academi wedi sicrhau nawdd gan Basic Skills Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) er mwyn datblygu prosiect peilot Write for Life yng ngharchardai Cymru. Dros y flwyddyn nesaf, bydd yr Academi’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r pum carchar yng Nghymru er mwyn annog oedolion sy’n garcharorion sydd â sgiliau llythrennedd islaw Sgiliau Sylfaenol Lefel 1 i gymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol. Gwahoddir carcharorion i fynychu sesiynau blasu, gweithdai ysgrifennu creadigol a grwpiau darllen er mwyn cael blas ar lenyddiaeth a’u cyflwyno i awduron proffesiynol.
Heb y gallu i ddarllen ac ysgrifennu, mae hi bron yn amhosib i garcharorion ymgymryd ag unrhyw addysg bellach a’r hyfforddiant y maent angen, er mwyn mynd i’r afael â’u troseddu, ennill cymwysterau a dod o hyd i waith. Mae ‘na ddadl gref bod diffyg sgiliau darllen ac ysgrifennu yn ffactor sylweddol mewn troseddu. Bydd ymwneud â llenyddiaeth, boed yn ddarllen neu’n ysgrifennu creadigol, yn arwain carcharorion at addysg, hyfforddiant a gwaith am y tro cyntaf, a hefyd yn gwella’u hagwedd at ymddygiad a’u perthynas gyda’u teuluoedd hyd yn oed.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org


