Placiau Awduron
Placiau yn y Tirwedd Llenyddol
Cliciwch yma i fynd i wefan Placiau Awduron
Mae placiau coffa i’w gweld mewn eglwysi a mynwentydd yn aml, ond maent hefyd yn eistedd ar waliau llyfrgelloedd ac yn sefyll ar fryniau tonnog. Mae’r cofebau distaw yma sy’n coffáu awduron megis Saunders Lewis, Kate Roberts, R. Williams-Parry a T.H. Parry-Williams yn ychwanegu pennod arall at eu hetifeddiaeth llenyddol a gweithiau cyhoeddedig. Mae gwefan Placiau Awduron Llenyddiaeth Cymru yn fap sy’n cofnodi holl fawrion llenyddol y genedl mewn un man.
Ar y wefan fe welwch fod proffil unigol ar bob plac, ynghyd â ffotograffau, mapiau rhanbarthol, dolenni i ysgrifau coffa, erthyglau, fideos YouTube a gwefannau eraill o ddiddordeb. Mae proffil ar gyfer 68 plac felly dyma’r man cychwyn ar gyfer unrhyw daith i ddarganfod Placiau Awduron Cymru.
Cymerwch ran
Hoffai Llenyddiaeth Cymru i bobl anfon hanes eu ymweliadau â’r placiau ar y wefan atom, a’u gwahodd i anfon ffotograffau a fideos o’r placiau i greu map mwy cyflawn fyth ac archif o blaciau awduron Cymru. Mae’r wefan newydd hefyd yn annog defnyddwyr i adolygu placiau ac ychwanegu eu sylwadau.
Hysbyswch ni am blac nad ydym wedi sylwi arno, e-bostiwch eich ffotograffau o’r placiau neu gadewch adolygiad ar y wefan – mae’r Academi eisiau clywed gennych chi. E-bostiwch sylwadau, ffotograffau neu ffeiliau fideo at post@llenyddiaethcymru.org.
(Gofynnwn i chi beidio anfon delweddau mwy na 3MB os gwelwch yn dda a ffeiliau fideo ar ffurf .avi neu .wmv. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i ddefnyddio unrhywbeth yr ydych yn anfon ar gyfer cyhoeddusrwydd. Ni allwn dderbyn deunyddiau gwreiddiol drwy’r post nac unrhyw fformatiau ffeil arall).
Derbyniodd yr Academi Wobr Cwmni Disglair 2008 - 2010 oddi wrth Cyngor Celfyddydau Cymru a gefnogodd ddatblygiad y gwefan Placiau Awduron.


