Panel Ysgoloriaethau Awduron yr Academi


altKatie Gramich - Cadeirydd y Panel (o Hydref 2010)
Mae Katie Gramich yn olygydd ac yn feirniad llenyddol. Ar hyn o bryd mae’n Ddarllenydd mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru yw prif faes ei hymchwil academaidd. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys llenyddiaeth Cymru yn y Gymraeg a’r Saesneg; Astudiaethau Llenyddol a Diwylliannol Cymreig; Ysgrifennu gan ferched a theori ffeministaidd; Llenyddiaeth a theori ôl-drefedigaethol, Llenyddiaeth Saesneg y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif; Llenyddiaeth Plant; Llenyddiaeth Gymharol; Astudiaethau cyfieithu ac Ysgrifennu am deithio. Mae Katie Gramich yn Gymrawd Llenyddiaeth Cymru. Roedd yn feirniad ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2007.

Mae Catrin Beard yn feirniad llenyddol ac yn adolygydd cyson ar y cyfryngau ac mewn cyfnodolion. Mae’n feirniad profiadol a bu’n beirniadu’r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a Llyfr y Flwyddyn yn 2006. Mae’n gyfieithydd rhan amser i Brifysgol Cymru ac yn gweithio’n llawrydd yn ogystal yn ysgrifennu, golygu, adolygu a chynhyrchu deunydd. Bu’n gyflwynydd ar amrywiaeth eang o raglenni radio a theledu yn y Gymraeg a’r Saesneg, megis Y Sioe Gelf a Hel Straeon. Golygodd  gyfrol Cerddi Caerdydd yng nghyfres Cerddi Fan Hyn Gwasg Gomer. Mae wedi addasu amrywiaeth o lyfrau plant o’r Saesneg i’r Gymraeg. Mae’n aelod o Banel Llenyddiaeth Canolog yr Eisteddfod Genedlaethol.

Catherine Fisher
Mae’r bardd a’r nofelydd Catherine Fisher yn dod o Gasnewydd, Gwent. Enillodd wobr Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd a Gwobr Cyngor y Celfyddydau ar gyfer Awduron Ifainc. Mae wedi cyhoeddi pedwar casgliad o farddoniaeth. Mae Catherine hefyd yn adnabyddus fel nofelydd i blant a phobl ifainc, a’i gwaith yn aml â thema ffantasi neu wyddonias. Mae ei llyfrau’n cynnwys Darkhenge, trioleg The Snow-Walker, The Candleman a phedair rhan Book of the Crow. Cyrhaeddodd ei gwaith The Oracle Trilogy Restr Fer gwobr Whitbread 2004 ac mae wedi gwerthu’n dda’n ryngwladol. Enillodd Corbenic, nofel am chwedl y greal, wobr y Mythopoeic Society of America’s Children Fiction Award yn 2007. Roedd ei nofel  Incarceron ymhlith Rhestr Llyfrau Plant y Flwyddyn yn y Times yn 2007. Fis Hydref 2011 cyhoeddwyd mai Catherine Fisher oedd Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru, y cyntaf i ddal y swyddogaeth newydd hon.

Amanda Hopkinson
Cyfarwyddwr Canolfan Brydeinig Cyfieithu Llenyddiaeth ym Mhrifysgol East Anglia, Norwich. Fe'i penodwyd yn Athro Cyfieithu Llenyddol ym Mhrifysgol East Anglia yn 2009. Mae ei chyfieithiadau diweddaraf o weithiau Ricardo Piglia Money to Burn (Granta, 2003) a Paulo Coelho Devil and Miss Prym (HarperCollins, 2002). Ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu A History of Mexican Photography (Reaktion Books, i ddod).

Carolyn Jess-Cooke
Mae Carolyn Jess-Cooke yn awdur ac academydd o Belffast, Gogledd Iwerddon. Enillodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol a doethuriaeth ar sinema Shakespearaidd ym Mhrifysgol Queen’s Belffast. Ar hyn o bryd mae’n Uwch Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Northumbria. Mae barddoniaeth Jess-Cooke wedi ymddangos mewn nifer o gylchgronau yn cynnwys Poetry London, Poetry New Zealand, Poetry Ireland Review, a Poetry Wales. Mae wedi derbyn nifer o wobrwyon yn cynnwys Gwobr i Awduron gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Gwobr Tyrone Guthrie ar gyfer barddoniaeth, Gwobr Eric Gregory ac fe enillodd ail wobr yng Nghystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd Llenyddiaeth Cymru yn 2002. Cyhoeddwyd  ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Inroads gan Seren yn 2010.

Idris Reynolds
Bardd, llyfrgellydd a thiwtor. Mae wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith, ynghyd â nifer o wobrwyon eraill. Mae’n cyfrannu cerddi ac adolygiadau yn gyson at Barddas. Mae wedi cyhoeddi un gyfrol o farddoniaeth ac yn cystadlu’n gyson yn yr ornest lenyddol, Talwrn y Beirdd. Mae’n byw ym Mrynhoffnant, Ceredigion.