Ol-rifynnau
RHIFYN TERFYNOL |
|
|
|
Rhifyn #59 Mawrth 2011 |
![]() |
Rhifyn #58 Rhagfyr 2010 Ionawr Chwefror 2011 Mae'r awdur ifanc Gruffudd Antur yn trafod prentisiaeth bardd. Caiff gwefan newydd Placiau i Awduron ei lansio. Ceir cyflwyniad i feirniaid Llyfr y Flwyddyn 2011. |
![]() |
Rhifyn #57 Medi Hydref Tachwedd 2010 Mae'r awdur a'r golygydd Aled Islwyn yn esbonio paham trodd i'r Saesneg wrth ysgrifennu a chyhoeddi ei gyfrol o storiau byrion Out with It (Parthian, 2008). Edrychwn ymlaen at Ŵyl Llên y Lli 2010: Deffro'r Dychymyg. |
![]() |
Rhifyn #56 Mehefin Gorffennaf Awst 2010 Rhifyn yr Eisteddfod Genedlaethol 2010. Mae'r bardd Frank Olding o Abertyleri yn Fardd Preswyl y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod eleni. yma mae'n sôn am y dylanwadau a'i ysbrydolodd i lenydda yn y Gymraeg. Enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2010, newyddion am Gymrodyr newydd yr Academi Manon Rhys a Christine James. |
![]() |
Rhifyn #55 Mawrth Ebrill Mai 2010 |
![]() |
Rhifyn #54 Rhagfyr 2009 Ionawr Chwefror 2010 |
![]() |
Rhifyn #53 Medi Hydref Tachwedd 2009 |
![]() |
Rhifyn #52 Mehefin Gorffennaf Awst 2009 Mae Fflur Dafydd yn trafod Croesi Ffiniau, a’r profiad o gydweithio gyda’r bardd Owen Sheers er mwyn creu sioe ddwyieithog. Ceir manylion Awduron yn eu Cynefin, cyfres o wibdeithiau llenyddol a drefnir gan yr Academi. Cyhoeddwyd mai’r Prifardd Twm Morys fydd Bardd Plant Cymru 2009-10. Datgelir enwau’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2009. |
![]() |
Rhifyn #51 Mawrth Ebrill Mai 2009 Mae Ifor ap Glyn, Bardd Plant Cymru 2008-09 yn edrych nôl a rhannu ei brofiadau wrth iddo deithio o gwmpas ysgolion Cymru, yn ysgogi plant i farddoni. Yn ogystal cyhoeddir cerdd gan Ifor, Camp Obama, i gyfarch Barack Obama ar ei urddon’n arlywydd yr Unol Daleithiau. |
![]() |
Rhifyn #50 Rhagfyr 2008 Ionawr Chwefror 2009 Goruwchnaturiol - manylion rhaglen cynhadledd Gymraeg yr Academi. Erthygl gan Gwyn Thomas yn rhoi rhagflas o thema’r gynhadledd. Erthygl gan Fardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke, a chyflwyno beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2009. |
![]() |
Rhifyn #49 Medi Hydref Tachwedd 2008 Yn cynnwys manylion Gwyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg. Erthygl gan Gymdeithas y Rhyfeddod yn cynnig rhagflas o ddigwyddiad Yr Injan Odli a gynhelir yn ystod yr Wyl. Newyddion diweddaraf Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke. |
![]() |
Rhifyn #48 Mehefin Gorffennaf Awst 2008 Yn cynnwys atodiad arbennig Bardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke. Cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2008. Catrin Dafydd yn trafod pwysigrwydd Pontio. Cyhoeddi enw Bardd Plant Cymru 2008-09. |
|
|
Rhifyn #47 Ebrill - Mai 2008 Llyfr y Flwyddyn 2008. Eitem arbennig gyda manylion Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008. Cyhoeddir enw’r Bardd Cenedlaethol newydd. Mae Caryl Parry Jones yn edrych nôl ar ei blwyddyn fel Bardd Plant Cymru. |
![]() |
Rhifyn #46 Ionawr - Mawrth 2008 O Fôn i Felffast. Yn cynnwys eitem ar gynhadledd yr Academi, a gynhelir ym Melffast, ar y cyd â changen Cymru o Undeb Awduron y Deyrnas Unedig. Mae Geraint V Jones yn trafod y profiad o ennill gwobr Cymru Greadigol yn 2006, a’r gwaith sydd ar y gweill. |
![]() |
Rhifyn #45 Tachwedd / Rhagfyr 2007 Rhifyn arbennig am Wyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Mae Menna Baines yn trafod y profiad o olygu’r Gwyddoniadur. Ceir detholiadau o’r cynnwys, ynghyd ag eitemau am y golygyddion. |
![]() |
Rhifyn #44 Medi / Hydref 2007 Yn cynnwys Robin Chapman yn canu’n iach i’r cofiant - am y tro ac Owen Sheers yn myfyrio ar y grefft o ysgrifennu mewn gwahanol genres. |
![]() |
Rhifyn #43 Gwanwyn / Haf 2007 Yn cynnwys Gwyneth Glyn yn edrych nôl ar ei blwyddyn fel Bardd Plant Cymru, a David Llewellyn yn myfyrio ar ddylanwad technoleg ar ein bywydau ac ar ysgrifennu. Manylion Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2007 a chipolwg ar rai o brif wyliau llenyddol Cymru. |
![]() |
Rhifyn #42 Ionawr / Chwefror / Mawrth 2007 Yn cynnwys Eurig Salisbury ar farddoniaeth a thechnoleg a Cynan Jones yn myfyrio ar ysgrifennu dinesig a chefn gwlad. Cawn gipolwg ar Annwfn, Cynhadledd yr Academi. |
![]() |
Rhifyn #41 Tachwedd / Rhagfyr 2006 Yn cynnwys Dafydd Pritchard yn trafod mynychu gwyliau llenyddol yng Nghymru a John Barnie yn cynnig model newydd ar gyfer gwyliau llenyddol. Cerdd Kyffin gan Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru. |
|
|
Rhifyn #40 Medi / Hydref 2006 Yn cynnwys: Tu hwnt i’r heip a’r hysteria gan Llwyd Owen, Rhys Hughes yn sôn am fod yn awdur ar ei liwt ei hun; Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol newydd Cymru. |
![]() |
Rhifyn #39 Mehefin/Gorffennaf/Awst 2006 Yn cynnwys Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2006, Catrin Dafydd yn sôn am Yr Ysfa i Adrodd Stori a Robert Minhinnick yn disgrifio’i weledigaeth ar gyfer Poetry Wales a datgelu enw Bardd Plant Cymru 2006–07. |
|
|
Rhifyn #38 Ebrill / Mai 2006. Yn cynnwys Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006. Mae Mererid Hopwood yn edrych yn ôl ar ei blwyddyn fel Bardd Plant Cymru ac mae Grahame Davies yn sôn am y profiad o gyfieithu ac addasu ei nofel i’r Saesneg. |
![]() |
Rhifyn #37 - Ionawr/Chwefror/Mawrth 2006 Menna Elfyn yn bwrw golwg nôl ar ddatblygiad teithiau barddol cyfoes Cymraeg, a Kathryn Gray yn dadlau o blaid ariannu awduron o Gymru sy’n byw tu hwnt i Glawdd Offa. |
![]() |
Rhifyn #36 - Tachwedd/Rhagfyr 2005 Aneirin Karadog yn taflu barddoniaeth, cerddoriaeth, rap a cherdd dant i mewn i’r pair, a Dai Smith yn cyflwyno cyfres The Library of Wales. |
![]() |
Rhifyn #35 - Medi/Hydref 2005 Iwan Llwyd yn sôn am bwysigrwydd teithio i feirdd ac awduron a Ric Hool yn edrych yn ôl ar dair blynedd ar ddeg o farddoniaeth yn nhafarn yr Hen and Chicks. |
![]() |
Rhifyn #34 - Mehefin/Gorffennaf/Awst 2005 Nia Môn yn cynnig gair i gall i ddarpar Stompwyr a’r awdur Mike Parker yn bwrw golwg dros wyliau llenyddol yng Nghymru yn ystod yr haf. |
![]() |
Rhifyn #33 - Ebrill/Mai 2005 Gŵyl Llên y Lli yr Academi, Fflur Dafydd yn trafod y berthynas rhwng cerddoriaeth a geiriau a Clare Potter sy’n datgelu sut y bu i ennill gwobr John Tripp 2004 am berfformio ei cherddi effeithio ar ei bywyd. |
![]() |
Rhifyn #32 - Ionawr/Chwefror/Mawrth 2005 Canu’n Rhydd - edrych ymlaen at Gynhadledd yr Academi yn Llandudno, Y Prifardd Tudur Dylan Jones yn rhannu ei brofiadau fel Bardd Plant Cymru 04-05 a’r awdur plant Jenny Sullivan sy’n rhoi cipolwg i ni ar fyd un sy’n gweithio ar gyfer a chyda plant. |
|
|
Rhifyn #31 - Tachwedd/Rhagfyr 2004 Menna Elfyn a John Williams sy’n rhoi eu barn ar ddiddymu quangos y celfyddydau, G?yl Dylan Thomas yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe a chartref newydd yr Academi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
|
|
|
Rhifyn #30 - Medi/Hydref 2004 Erthyglau difyr gan Jerry Hunter a Niall Griffiths awduron cyfrolau buddugol gwobr Llyfr y Flwyddyn 2004. |
|
|
Rhifyn #29 - Mehefin/Gorffennaf/Awst 2004 Gwyneth Glyn sy’n amheus a oes modd i awdur fydd ddianc rhag ei waith, mae Tim Rhys yn trafod ysgrifennu mewn caffis a chyflwyno 6 beirniad Llyfr y Flwyddyn 2005. |
|
|
Rhifyn #28 - Ebrill/Mai 2004 Rhifyn Arbennig Llyfr y Flwyddyn 2004: Rocet Arwel Jones yn myfyrio ar yr awduron sydd yn y ras ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2004, Ifor Thomas yn trafod Stump gan Niall Griffiths a silff lyfrau Harri Pritchard Jones, Cyd-Gadeirydd yr Academi sydd o dan y chwyddwydr. |
![]() |
Rhifyn #27 - Ionawr/ Chwefror/ Mawrth 2004 |
![]() |
Rhifyn #26 - Tachwedd/ Rhagfyr 2003 Meg Elis yn trafod cyfrifoldeb yr awdur a Chris Torrance yn trafod marwolaeth y gerdd. |
![]() |
Rhifyn #25 - Medi/ Hydref 2003 Twm Morys a Robert Minhinnick sy’n trafod cryfderau a gwendidau cyfiaethu barddoniaeth Gymreag i’r Saesneg. |
![]() |
Rhifyn #24 - Mehefin/ Gorffennaf/ Awst 2003 Alison Layland a Jo Mazelis sy’n trafod crefft y Stori Fer. |
![]() |
Rhifyn #23 - Ebrill/ Mai 2003 Ifan Prys: Yr Hwntws yn erbyn y Gogs a Darren Floyd yn amddiffyn Ysgrifennu Arswyd. |
![]() |
Rhifyn #22 - Ionawr/ Chwefror/ Mawrth 2003 Aled Jones Williams: Sgwennu ar y Ffîn. Carol Rumens sy’n trafod rhyddid a sensoriaeth mewn gwaith awdur. |
![]() |
Rhifyn #21 - Tachwedd/ Rhagfyr 2002 Mae Menna Elfyn yn trafod ei rôl newydd fel Bardd Plant Cymru a Gillian Clarke sy’n dod â chwedleuwyr mewn i’r drafodaeth ar ffioedd i awduron. |
![]() |
Rhifyn #20 - Medi/ Hyderef 2002 Trafoda Eurig Wyn ei wobr ddiweddaraf a Jim Perrin syn sôn am weisg bychain. |
![]() |
Rhifyn #19 - Mehefin/ Gorffennaf/ Awst 2002 Mae Robert Minhinnick yn codi cwestiynau ynghylch ffïoedd awduron. |
![]() |
Rhifyn #18 - Ebrill/ Mai 2002 Mae’r Prifardd Myrddin ap Dafydd yn trafod lleoliad da i ysgrifennu ac mae Anna Davis yn myfyrio dros sut i fod yn awdur Cymreig ’go iawn’. |
![]() |
Rhifyn #17- Chwefror/ Mawrth 2002 Tony Curtis sy’n amddiffyn yr hawl i ddysgu Ysgrifennu Creadigol. Edrycha Sabine Heinz am lwyfan ar gyfer llenyddiaeth Cymru dramor. |
![]() |
Rhifyn #16 - Tachwedd/ Rhagfyr/ Ionawr 2001 / 2002 Jane Dorner sy’n esbonio’r e-lyfr. |
![]() |
Rhifyn #15 - Medi / Hydref 2001 Mae Hywel Teifi Edwards yn myfyrio dros Eisteddfodau’r gorffennol a Janet Dubé yn trafod y berthynas rhwng Caerdydd a gweddill Cymru. |
![]() |
Rhifyn #14 - Mehefin / Gorffennaf / Awst 2001 Dylan Iorwerth sy’n honni ’Dyw’r hen ddyddiau ddim fel y buon nhw…’, Niall Griffiths, a theyrnged i Dafydd Rowlands. |
|
Rhifyn #13 - Ebrill / Mai 2001 Mae Robin Llwyd ab Owain yn sôn am lenyddiaeth, technoleg a defaid a John Williams yn sôn am y twf aruthrol yn nifer ein hawduron rhyddiaith Saesneg yng Nghymru. |
![]() |
Rhifyn #12 - Chwefror / Mawrth 2001 Manon Rhys a gwerth troi’n alltud a Richard Lewis Davies yn sôn am fod ar y cyrion. |
![]() |
Rhifyn #11 - Tachwedd/Rhagfyr 2000 a Ionawr 2001 Cofio R.S.Thomas, Myrddin ap Dafydd yn hel cwestiynau a Catherine Merriman yn sôn am gyhoeddi. |
![]() |
Rhifyn #10 - Medi / Hydref 2000 Dafydd Rowlands sy’n casglu blodau a Colin Jones yn cynnig cipolwg ar rai gweithgareddau llenyddol. |
![]() |
Rhifyn # 9 - Mehefin / Gorffennaf / Awst 2000 Meic Stephens yn dathlu’r tirwedd llenyddol a Jane Aaron a’i herthygl ’Prifysgol Morgannwg: gwir brifysgol Cymru’. |
|
|
Rhifyn #8 - Ebrill / Mai 2000 Technoleg a Llenyddiaeth, Gŵyl Llên y Lli ac ymateb i erthygl Mario Basini yn y rhifyn blaenorol. |
![]() |
Rhifyn #7 - Chwefror / Mawrth 2000 Gŵyl Llên y Lli, Dameg gan Dic Jones, cerdd Y Milenia Dyddiol gan Ifor ap Glyn, Meic Stephens yn cofio Glyn Jones ac erthygl feirniadol gan Mario Basini. |
![]() |
Rhifyn #6 - Tachwedd / Rhagfyr 1999 / Ionawr 2000 Iwan Llwyd a Twm Morys ar daith Eldorado o gwmpas Cymru, Sheenagh Pugh yn sôn am ysgrifennu. |
![]() |
Rhifyn #5 - Medi / Hydref 1999 Cystadleuaeth Canolfan y Mileniwm, erthygl gan Emyr Lewis, Claire Powell yn trafod llenyddiaeth yn Abertawe.
|
![]() |
Rhifyn #4 - Mehefin / Gorffennaf / Awst 2000 Nefar in Ewrop gan Grahame Davies, a John Barnie yn trafod barddoniaeth. |
![]() |
Rhifyn #3 Llên Cymru ar y We, Argraffiadau Iwan Llwyd ar A470, a Nigel Jenkins yn trafod barddoniaeth fel celfyddyd cyhoeddus. |
![]() |
Rhifyn #2 Gŵyl Ty Newydd, Jon Gower yn cnoi cil ar fyd llenyddiaeth yng Nghymru, Robert Minhinnick yn trafod cyhoeddi yng Nghymru |
![]() |
Rhifyn #1 Wil Owen Roberts yn trafod ysgrifennu creadigol, Herbert Williams yn sôn am ddwyieithrwydd. |


























































