Noddi Digwyddiadau

1. Cyflwyniad
01/03/2013 – Nodwch os gwelwch yn dda fod Telerau ac Amodau a Chymorth ar Gyfer Trefnwyr Digwyddiadau Awduron ar Daith wedi eu diwygio. Dylai trefnwyr digwyddiadau ddarllen y rhain cyn gwneud cais ar-lein.
1.1. Amlinelliad o’r cynllun nawdd
Mae cynllun nawdd Awduron ar Daith Llenyddiaeth Cymru’n cynnig cymorth ariannol tuag at amrywiaeth o ddigwyddiadau llenyddol, gan gynnwys gweithdai, darlithiau, darlleniadau, cynadleddau ac unrhyw ddigwyddiad arall sy’n ymwneud â hyrwyddo, gwerthfawrogi, ymarfer neu ddatblygu ysgrifennu creadigol. Mae’r cynllun hwn yn ariannu dros fil o ddigwyddiadau bob blwyddyn, ac mae tua wyth deg mil o bobl yn manteisio arno’n flynyddol. Ceir cydbwysedd cyfartal rhwng y gweithgareddau Cymraeg a Saesneg ac mae gwaith newydd yn cael ei ddatblygu mewn Wrdw, Arabeg a Somalieg. Mae proses ymgeisio Awduron ar Daith yn syml, yn uniongyrchol ac yn gyflym.
Gwneir cynigion nawdd i sefydliadau yn unig; ni chaiff unigolion ymgeisio. Ymhlith y sefydliadau cymwys, y mae ysgolion, llyfrgelloedd, tafarnau, clybiau, cymdeithasau, canolfannau cymunedol, gwyliau celfyddydol a lleoliadau eraill ledled Cymru.
Gall Llenyddiaeth Cymru ariannu hyd at 50% o gostau digwyddiadau llenyddol priodol. Mae Llenyddiaeth Cymru’n cynnig nawdd tuag at ffi’r awdur yn bennaf (ac weithiau’n ystyried cyfrannu tuag at dreuliau a llety). Ni fydd unrhyw gostau eraill fel arfer yn gymwys am nawdd.
Darllenwch ein canllawiau a’n telerau ac amodau’n ofalus cyn gwneud cais os gwelwch yn dda.
1.2. Gwybodaeth Gyffredinol
Cynllun Awduron ar Daith yw cynllun nawdd hynaf Prydain ar gyfer digwyddiadau llenyddol. Yn wreiddiol, cafodd ei sefydlu gan Gyngor Celfyddydau Cymru tua 30 mlynedd yn ôl.
Mae nawdd ar gael i gynorthwyo gyda’r canlynol:
- ymweliadau unigol gan awduron ag ysgolion, llyfrgelloedd, tafarnau, clybiau, cymdeithasau, canolfannau cymunedol a lleoliadau eraill ledled Cymru
- cyfnodau preswyl llenyddol neu gyfnodau estynedig o waith gan un neu fwy o awduron mewn un lleoliad neu ar un prosiect. Gall y rhain gymryd lle, er enghraifft, mewn ysgolion unigol, mewn grŵp clwstwr, mewn clybiau ieuenctid, llyfrgelloedd, canolfannau dydd neu gartrefi gofal preswyl
- trefnu rhaglennu lleoliadau, gwyliau neu gyfresi sy’n arloesol, newydd a chyffrous. Er enghraifft: rhaglenni o weithgaredd llenyddol mewn gwyliau bychain neu deithiau llenyddol
- gweithdai a digwyddiadau Sgwadiau ‘Sgwennu’r Ifainc
1.3. Gwneud cais
-
Dewis awdur a thema/math o ddigwyddiad
Mae Llenyddiaeth Cymru’n cadw Rhestr Awduron Cymru, cronfa ddata ar-lein sy’n cynnwys gwybodaeth fywgraffyddol am y rhan fwyaf o awduron Cymraeg a’r rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae rhai o’r tudalennau’n cynnwys dolenni cyswllt at wybodaeth trefnu awduron ar gyfer trefnwyr digwyddiadau. Fe ddylai’r trefnwyr fedru dod o hyd i awdur addas o’r gronfa, ond nid oes rhaid cyfyngu i’r rhestr hon yn unig. Bydd Llenyddiaeth Cymru’n ystyried ceisiadau ar gyfer unrhyw awdur sydd â’r cymwysterau priodol; mae’r rhan fwyaf o awduron blaenllaw’r DU wedi gweithio yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Os ydych yn dal yn ansicr, gall Llenyddiaeth Cymru gynnig cyngor a chymorth gyda’ch dewis o awduron ar gyfer digwyddiadau arbennig (ffoniwch 01766 523237 os gwelwch yn dda).
*Newydd* cyfeiriwch at adran 3.3 Sut i Wella Safon eich Cais i weld canllawiau ar sut y bydd eich cais yn cael ei asesu, os gwelwch yn dda.
-
2. Trefnu gyda’r awdur
Cadarnhewch ddyddiad a lleoliad y digwyddiad gyda’r awdur. Mae rhai cofnodion ar Restr Awduron Cymru’n cynnwys manylion cyswllt. Bron yn ddi-ffael, gall Llenyddiaeth Cymru yrru ceisiadau at awduron nad yw eu manylion cyswllt yn gyhoeddus.

-
Cymhwyster?
Sicrhewch fod eich digwyddiad (a’ch sefydliad) yn gymwys i dderbyn nawdd gan Llenyddiaeth Cymru (gweler ein telerau ac amodau os gwelwch yn dda).
-
Gwneud cais am nawdd.
Dylid cyflwyno pob cais yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein, neu trwy lawr-lwytho’r ffurflen gais ar ffurf PDF a’i hanfon drwy’r post. Mae’n rhaid i bob cais gyrraedd Llenyddiaeth Cymru rhwng *newydd* dim mwy na chwe mis ac o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad cychwyn arfaethedig. Ni allwn ystyried unrhyw geisiadau sy’n cael eu cyflwyno’n hwyrach na phedair wythnos cyn y digwyddiad.
I osgoi cael eich siomi, os ydych yn gwneud cais am ddigwyddiad sydd ymhen llai na phum wythnos, ffoniwch Llenyddiaeth Cymru’n syth ar ôl anfon eich cais os gwelwch yn dda, er mwyn sicrhau bod y ffurflen wedi ein cyrraedd.
Gwrthodir pob cais sy’n ein cyrraedd mwy na chwe mis o flaen llaw yn awtomatig – bydd angen i drefnwyr digwyddiadau ail-ymgeisio’n agosach i’r amser. Ni all Llenyddiaeth Cymru ystyried ôl-weithredu nawdd o dan unrhyw amgylchiadau.
-
Ymateb.
Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn saith niwrnod gwaith. Os na fyddwch wedi clywed wrthym cysylltwch â ni i wneud yn siŵr ein bod wedi derbyn eich cais. Cyfrifoldeb y trefnydd yw sicrhau bod y cais wedi ein cyrraedd mewn da bryd - ni all Llenyddiaeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am geisiadau nad ydynt yn ein cyrraedd yn ddiogel.
-
Cynigion.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon cadarnhâd atoch dros e-bost o fewn saith diwrnod inni dderbyn eich cais. Os na allwn gynnig cymorth, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosib. Yn y lle cyntaf, byddwn yn cysylltu â chi dros e-bost felly sicrhewch bod y cyfeiriad e-bost a roddir inni’n gywir a bod eich mewnflwch negeseuon yn cael ei wirio’n aml.
-
Cydnabod cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd angen ichi gydnabod cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru ym mhob cyhoeddusrwydd cyn eich digwyddiad, yn ogystal â gwneud hynny ar lafar yn ystod y digwyddiad. Gweler y Telerau ac Amodau am fwy o wybodaeth.
-
Talu awduron
Mae talu’r awduron yn llawn ar ddiwrnod y digwyddiad yn un o amodau craidd ein cynigion nawdd. Gweler y Telerau ac Amodau am fwy o wybodaeth.
-
Hawlio nawdd
Gellir hawlio nawdd Awduron ar Daith wedi i’r digwyddiad gymryd lle trwy lenwi a dychwelyd Ffurflen Adroddiad y Digwyddiad a gaiff ei e-bostio gyda’r cynnig, a rhaid gwneud hynny o fewn 3 mis wedi’r digwyddiad.


