Gwyl Lenyddiaeth Dinefwr

Dyma ddatgelu logo Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr i’r byd! Mae’r gigfran wrth gwrs yn rhan annatod o hanes ardal Dinefwr; gwelir cyfeiriadau yng ngwaith beirdd y canoloesoedd at deulu Gruffydd ap Nicholas o linach Urien Reged, a Chigfran Urien, a fu’n gwarchod Owain fab Urien rhag ei elynion. Mae’r gigfran hefyd yn ymddangos unwaith eto mewn hanes ar arfau teulu Dinefwr, sef disgynyddion Gruffydd. Felly cadwch lygaid ar y gigfran wrth iddi hedfan yn ôl i’w chartref yn y gorllewin a chadwch lygaid yma ar wefan Llenyddiaeth Cymru am ragor o fanylion am Ŵyl Lenyddiaeth Dinefwr a gaiff eu cyhoeddi yn fuan.
Gŵyl lenyddiaeth newydd yng ngorllewin Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y cynhelir gŵyl fywiog newydd i ddathlu’r gorau o’n llenyddiaeth ym Mharc a Chastell Dinefwr yng ngorllewin Cymru yn 2012.
Trefnir Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr gan Llenyddiaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant (fel partner arweiniol yn rhaglen Coracle).
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn hael iawn wedi gwobrwyo £65,000 i’r prosiect newydd hwn o’i gronfa Ariannu Gwyliau.
Cynhelir yr ŵyl ddwyieithog rhwng dydd Gwener 29 Mehefin a dydd Sul 1 Gorffennaf. Bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o lenyddiaeth, cerddoriaeth, comedi, sinema a gweithgareddau i’r plant. Gobeithir efelychu rhai o hoff wyliau Cymru dros y blynyddoedd - Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Sesiwn Fawr, y Cnapan – gan wneud i lenyddiaeth yr hyn a wnaed i gerddoriaeth gan y gwyliau hyn. Gosodir digwyddiadau llenyddol ochr yn ochr â ffurfiau celfyddydol eraill, yng nghanol tirwedd hardd a hanesyddol Parc a Chastell Dinefwr.
Bydd yr arlwy eang yn cynnwys nofelwyr adnabyddus, storïwyr lleol, beirdd cadeiriog a choronog, awduron plant, cyfansoddwyr, cantorion, sgriptwyr a llu o berfformiadau eraill a fydd yn apelio at blant ac oedolion fel ei gilydd. Bydd maes gwersylla yn gyfagos, fel na fydd esgus dros golli eiliad o hwyl yr ŵyl. Bydd y penwythnos yn byrlymu gydag adloniant awyr agored, amrywiaeth o stondinau, bwyd lleol i dynnu dŵr i’r dannedd, a llawer llawer mwy.
Mae gan lenyddiaeth Cymru wreiddiau dwfn yn Ninefwr, Sir Gaerfyrddin. Yma oedd cartref Tywysogion y Deheubarth, ac mae geiriau beirdd y llys yn dal i fod yma yn gymysg â’r gwynt. Mae’r ardal hon o Sir Gaerfyrddin yn enwog am hybu a dathlu diwylliant Cymru drwy’r oesoedd.
Meddai Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru: “Mae hwn yn brosiect ac yn bartneriaeth hynod gyffrous i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae pawb yn hoffi stori dda, barddoniaeth a cherddoriaeth, ac mae traddodiad Cymru yn y meysydd hyn yn rhyfeddol a chyfoethog. Caiff Dinefwr ei ystyried fel un o beiriau diwylliant Cymru, ac felly bydd cynnal gŵyl ar y safle yn sbardun pellach i hybu balchder mewn llenyddiaeth Cymru a llwyddiant cerddorol.”
Meddai Dominic Williams, Swyddog Datblygu Coracle: “Datblygiad proffesiynol unrhyw gymuned greadigol - gan gynnwys ysgrifenwyr creadigol - yw’r gyriant tu ôl i raglen Coracle. Gŵyliau celfyddydol yw’r llwyfan sy’n aml yn trawsnewid y cymunedau hyn i ddiwydiannau. Bydd yr ŵyl leol a rhyngwladol yma’n cael effaith anhygoel o bositif ar yr ardal drwy ddenu pobl sy’n caru diwylliant i gartref llenyddiaeth Cymru.”
Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Gweledigaeth Llenyddiaeth Cymru yw mynd â llenyddiaeth i bob cwr o Gymru i gynulleidfa mor eang â phosib. Mae'r ŵyl newydd yn caniatáu i ni wneud hynny. Bydd gweithio mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Coracle yn ein galluogi i fod yn fwy uchelgeisiol yn ein rhaglennu nag erioed o'r blaen. Bydd 2012 yn flwyddyn wych i lenyddiaeth - ac i’r gorllewin. "
Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am yr ŵyl, gan gynnwys lansiad gwefan newydd, yn y Flwyddyn Newydd.
Yn y cyfamser, ewch i wefannau partneriaid y prosiect:
Llenyddiaeth Cymru: www.llenyddiaethcymru.org/,
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: www.nationaltrust.org.uk/dinefwr,
Coracle: www.coracle.eu.com/.
Ariennir yr ŵyl yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen Interreg 4a.






