Taliesin 140

Taliesin 140, Haf 2010

 Taliesin 140

Mae Taliesin Cyfrol 140, Haf 2010 yn y siopau nawr, ar ei newydd wedd. Dyma’r ail rifyn dan olygyddiaeth Angharad Elen a Siân Melangell Dafydd. O’r diwiynyddol a’r athronyddol, i fyd ofergoelion, animism a breuddwydion, mae thema cyfrol yr haf yn fyfyrdod ar Yr Enaid.

Mae’r rhifyn yn cynnwys:
Erthygl gan Harri Pritchard Jones yn trafod y cysylltiad rhwng llenyddiaeth a’r enaid;
Catrin Dafydd yn ymateb i waith yr artist Anna Barratt;
Sharon Morgan yn holi Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales, John McGrath;
cywydd gan Donald Evans i dalu teyrnged i Bobi Jones fel Llywydd Anrhydeddus yr Academi;
Angharad Price ac Aneirin Karadog yn ymateb i waith T. H. Parry-Williams fel rhan o brosiect pen-blwydd Taliesin, Dwy Law; holi Wiliam Owen Roberts;
ynghyd â gwaith newydd gan Mihangel Morgan, Fflur Dafydd, Aled Jones Williams,
Rhys Iorwerth a llu o awduron eraill.

Ceir cerddi, rhyddiaith, adolygiadau, erthyglau, cystadleuaeth ffotograffiaeth,
heb anghofio’r croesair cryptig gorau yn yr iaith Gymraeg!

Ar gael yn eich siop lyfrau lleol. Pris £6.95
Neu drwy danysgrifiad: £19 y flwyddyn / £34 am 2 flynedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org