Cerdd gan Gillian Clarke i gofio trychineb Chwe Chloch
Cerdd newydd gan y Bardd Cenedlaethol:
Gillian Clarke yn cofio trychineb Chwe Chloch
Mae’r Bardd Cenedlaethol Gillian Clarke wedi anfarwoli’r rhai a laddwyd yn y ffrwydrad ym mhwll glo Chwe Chloch.
Hanner can mlynedd yn ôl, 28 Mehefin 1960, collodd 45 dyn eu bywydau wrth i ffrwydriad nwy ddinistrio pwll glo Chwe Chloch ger Abertyleri, Blaenau Gwent. I gofio’r achlysur bydd cerflun 20m o uchder gan y cerflunydd Sebastian Boyesen yn cael ei ddadorchuddio heddiw.
Chwe Chloch
28 Mehefin 1960
Hwyrach i wraig wrth godi ei golch ar lein
glywed siffrwd, eiliad syn a’i chlust yn fain,
pyls wan mewn daear, fel drylliad calon,
wrth fagu yn ei dwylo bentwr llaith—
llieiniau eu huniad, ei grysau. Hwyrach
i un neu ddwy droi pen wrth sgwrio rhiniog,
dwylo gwlyb o wasgu enfysau ar lech;
ac islaw’r dref, yno yng nghrombil y pwll
lithriad craig yn gwreichio’r dur wrth danio’r
gwagle— dwrn trwy’r düwch nes ffrwydro
llosgnwy yn wenfflam. Wrth iddynt drengi,
munud syfrdan cyn i’r seirennau daranu
a chyn i’r dorf ymgasglu gan lenwi’r stryd,
a chyn iddi godi drachefn y llieiniau glân i gyd.
Trosiad o’r Saesneg gan Menna Elfyn


