tu chwith
Ysgrifennwch Haiku neu Senryu

Mae gan gylchgrawn tu chwith her i chi. Yr her yw i ysgrifennu haiku neu senryu (disgrifiad o ofynion y pennillion ar wefan tu chwith) a’u postio ar y wefan yn y blwch ‘sylwad/comment’ neu eu postio ar facebook tu chwith neu ar twitter (gan gyfeirio’r pennill @tuchwith). Gallwch hefyd eu e-bostio at tuchwith@googlemail.com os ydych am eu ysgrifennu dan ffugenw. Bydd y goreuon yn cael eu dethol a'u rhoi yn rhifyn nesaf tu chwith a fydd yn cael ei gyhoeddi fis Awst.
Felly, pam na wnewch chi drio sgwennu un o’r penillion bach twt yma? Hyd yn oed os nag ydych chi wedi ysgrifennu o’r blaen, beth am geisio rhoi haiku neu senryu at ei gilydd? Efallai bydd eich gwaith yng nghylchgrawn tu chwith!
Thema rhifyn nesaf tu chwith fydd ‘Croesi Ffiniau’. Mae amser o hyd i gyfrannu os dymunwch; y dyddiad cau yw Mehefin 30ain, 2010. Danfonwch eich cynnyrch at tuchwith@googlemail.com.
Cliciwch yma i ddarllen y manylion yn llawn.


