Ffarwelio â Bardd Plant Cymru 2009-10, Twm Morys
Ffarwelio â Twm Morys fel Bardd Plant Cymru

Wrth groesawu Dewi Pws i'w rôl newydd fel Bardd Plant Cymru, rhaid wrth reswm gydnabod gwaith caled Bardd Plant Cymru 2009-10, Twm Morys.
Dyma ddywedodd Twm ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn Llannerch Aeron.
“Mi aeth heibio flwyddyn gron ers imi dderbyn y joban hon, ac fel amsar Brown yn Nymbar Ten mi ddaeth fy amser i i ben. Ond cyn imi ildio’r anrhydedd a’r fraint, mi garwn i ddiolch i Duw-a-ŵyr faint o bobol fu’n helpu mewn gwahanol ffyrdd.
Diolch i’r Cyngor Llyfrau, a’r Urdd; i S4C fu yn eu gwaith yn ffilmio’r plantos, yn dangos y daith. A diolch yn ddiffuant i chi, ferched yr Academi, yn enwedig i Branwen, fu’n gwbwl ddi-gŵyn yn ail-drefnu’r trefniadau o hyd er fy mwyn…
Ac, wrth reswm, rhaid diolch nesa’ i’r holl athrawon a’r athrawesa’ am roi penrhyddid llwyr i Twm, er gwaetha’ hualau’r cwricwlwm…
Ond diolch yn benna’ i blant ein gwlad, sef ei dyfodol hi, neno’r tad! Roeddwn i’n amau, ond mi wn i yn awr, wedi blwyddyn efo plant bach a mawr, bod pawb yn fardd i ddechrau cychwyn, a bod yr hyn sy’n digwydd wedyn fel yr hyn sy’n digwydd i’r ŵyn a’r lloi, sef rhoi’r gorau i brancio, ac ymroi i bori a phori, ar fy llw, nes i’r lori ddŵad i fynd â nhw.
Y beirdd, petasen nhw dros eu cant, ydi’r bobol hynny sy’n aros yn blant! Ac un o’r rheini, yn saff i chi, ydi’r dyn sy’n cymryd y job gen i. Dach chi i gyd yn ei nabod ers cyn co’: Dewi Pws ydi ei enw o!
Cerdd i Gyfarch Dewi Pws Morris
Fel hyn y dywedodd yr hen Dwm ffôl
Pan glywodd pwy oedd yn dod ar ei ôl:
“Mae tri enw ar y dyn,
A chwbwl gelwyddog yw pob un.
Mae’r cynta’, Dewi, yn enw Sant,
Ond un drwg a direidus yw e, blant.
Enw i alw cath, Pws, sydd wedyn:
Ond welsoch chi gath heb run blewyn?
A’r trydydd enw, Morris, wel,
Enw yw hwnnw ar brifardd del!”
Felly dywedodd yr hen Dwm ffôl
Pan glywodd pwy oedd yn dod ar ei ôl…
Ond rhoi croeso i’r dyn â thri enw a wnawn:
Mae e’n hen ac yn foel, ond mae’n ddigri iawn iawn.
DEWI PWS MORRIS, dere mewn, mêt.
Naw wfft i’r prifeirdd: digrifeirdd sy’n grêt!
Gellir darllen cynnyrch yr holl weithdai a gynhaliodd Twm tra'n gwisgo mantell Bardd Plant Cymru, trwy glicio yma.


