Ysgoloriaethau'r Academi i Awduron 2010

Ysgoloriaethau’r Academi ar gyfer Awduron 2010

Amser i’r Awen

Ysgoloriaethau i Awduron

Bydd 17 o awduron yn derbyn cyfran o £95,000 o bunnoedd gan yr Academi i’w hysgogi i ysgrifennu. Yn ogystal â llenorion cyhoeddedig Cymru, bydd tri awdur newydd ymhlith y rhai sy’n derbyn ysgoloriaeth i brynu amser o’u dyletswyddau bob dydd. Bydd yr ysgoloriaethau’n esgor ar nofelau a straeon byrion, barddoniaeth a rhyddiaith greadigol.

Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Mae ysgrifennu’n ffynnu yn ystod dirwasgiad economaidd. Mae cynllun ysgoloriaethau’r Academi’n gynllun poblogaidd sy’n cynorthwyo awduron i ffeindio ffordd trwy gyfnod sy’n anodd yn ariannol. Mae ysgoloriaethau eleni wedi eu dyfarnu i awduron proffesiynol ac awduron newydd, nofelwyr a beirdd, awduron straeon byrion a beirniaid. Bydd y gweithiau llenyddol newydd mae’r ysgoloriaethau’n prynu yn gwneud byd o wahaniaeth i’n diwylliant.”

Bydd y bardd a’r newyddiadurwraig Karen Owen yn canolbwyntio ar greu cyfres estynedig o gerddi, wedi ei seilio ar themau mathemategol sy’n mynd i’r afael â materion emosiynol a moesol y cyfnod hwn. Bydd Dafydd John Pritchard yn cael amser i ffwrdd o’i waith i ganolbwyntio ar gasgliad o gerddi a fydd yn arwain at ail gyfrol.
 
Bydd ysgoloriaeth yn galluogi Robat Gruffudd i ganolbwyntio ar ysgrifennu nofel arall, am Gymro alltud sy’n dychwelyd i’w fro enedigol sef Abertawe, ac yn chwilio am Afallon yn y Gymru sydd ohoni. Nod Daniel Davies yw ysgrifennu nofel antur gomic. Bydd Dafydd Apolloni yn ysgrifennu casgliad o straeon byrion wedi’u gosod yng Nghymru a thramor. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn galluogi Eiry Miles i gymryd peth amser i ffwrdd o’i gwaith er mwyn cwblhau ei nofel gyntaf, am Gymraes sy’n blismones yn Llundain.
 
Bydd Euros Lewis yn astudio datblygiad Theatr Felinfach yng nghyd-destun hanes y ddrama Gymraeg yn gyffredinol.
 
Ymhlith yr awduron sy’n derbyn ysgoloriaethau i ysgrifennu’n Saesneg mae Damian Walford Davies, Tiffany Atkinson, Samantha Wynne Rhydderch, Ivy Alvarez, Christopher Lloyd, Ann McManus, Byron Rogers, Alex Keegan a Jane MacNamee.
 
Dywedodd Gwen Davies, Cadeirydd y Panel Ysgoloriaethau: “Rwy’n hynod falch bod blaenoriaethau eleni’n golygu na fu’n rhaid gosod uchasfwm a thocio’r ysgoloriaethau. Mae hyn wedi’n galluogi i ddyfarnu ysgoloriaethau sydd mor agos â phosib at anghenion yr awduron, a hyn i 17 ymgeisydd haeddiannol.”

Cliciwch yma am ragor o fanylion.