Dic - Darlith Goffa gan Idris Reynolds

Dyma gyfle i Gymdeithasau ledled Cymru glywed rhan o'r hyn a adroddodd Idris Reynolds yng Ngwasanaeth Coffa'r Archdderwydd, y Prifardd, y storïwr, y darlledwr a'r ffermwr Dic Jones.
Mae'r Academi'n cysylltu â chymdeithasau llenyddol a diwylliannol ledled y wlad i gynnig cymorth ariannol i'r rhai a hoffai drefnu ymweliad gan Idris Reynolds.
Cysylltwch â Idris Reynolds i drefnu ymweliad: 07765 467 383
Cynllun Awduron ar Daith
Bydd y rhai ohonoch sy'n gyfarwydd â'r cynllun hwn yn ymwybodol o ba mor syml yw ceisio am gymorth ariannol gan yr Academi o hyd at 50% o gostau digwyddiad llenyddol.
Anfonwch eich cais ysgrifenedig atom o leiaf fis cyn y digwyddiad. Rhaid nodi'r canlynol:
Natur y digwyddiad, dyddiad ac amser, lleoliad, ffi'r siaradwr a'ch manylion cyswllt.
Os gallwn helpu, byddwn yn anfon cytundeb atoch. Gofynnir i chi dalu'r siaradwr yn llawn yn digwyddiad. Yna, dychwelwch y ffurflen adroddiad atom.
Wedi i ni dderbyn y ffurflen adroddiad, anfonir y cyfraniad atoch.
Gallwch wneud cais trwy glicio yma, neu trwy gysylltu â'r Academi'n uniongyrchol:
Academi,
Prif Weithredwr: Peter Finch,
Tŷ Mount Stuart,
Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd,
CF10 5FQ
Ffôn: 029 2047 2266 / E-bost: post@academi.org


