Cyfarfod y Beirdd Llawryfog
Bardd Cenedlaethol Cymru a’r Bardd Llawryfog
Noder: Nid oes llefydd ar ôl i'r digwyddiad hwn

Dydd Sadwrn 20 Mawrth 2010, 12.30 - 1.30 pm
Gwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd
Pris: £9.00 / £7.50 (Aelodau a Chefnogwyr Academi)
Gwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd
Pris: £9.00 / £7.50 (Aelodau a Chefnogwyr Academi)
Cyhoeddwyd y bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, yn cymryd rhan mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd, yng nghwmni’r Bardd Llawryfog, Carol Ann Duffy.
Bydd yn gyfle i glywed dwy o brif feirdd yr iaith Saesneg yn darllen a thrafod eu gwaith. Byddant hefyd yn trafod y cysylltiadau rhwng eu swyddi fel Bardd Cenedlaethol Cymru a Bardd Llawryfog Prydain.
Apwyntiwyd Carol Ann Duffy yn Fardd Llawryfog yn 2009 - y fenyw gyntaf i dderbyn yr anrhydedd hwn. Heb os, hi yw un o feirdd mwyaf poblogaidd Prydain, ac mae galw mawr ar ei pherfformiadau mewn gwyliau a digwyddiadau dros y byd. Dywed papur newydd The Guardian: “Ym myd barddoniaeth, mae Carol Ann Duffy yn serennu.”
Mae Gillian Clarke wedi bod yn Fardd Cenedlaethol Cymru ers 2008. Mae disgyblion TGAU a Lefel A Saesneg mewn bron pob ysgol ym Mhrydain yn astudio ei barddoniaeth ac mae wedi perfformio ei gwaith o flaen cannoedd o filoedd o bobl ifainc yn y sioeau Poetry Live. Noddir cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac fe’i weinyddir gan yr Academi.
Disgwylir galw mawr i’r digwyddiad hwn - Tocynnau wedi gwerthu yn llwyr. Am fanylion pellach cysylltwch a'r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org.


