Wylofain
Cerdd i Haiti
Wylofain
Er mwyn y cread sy’n crynu'n ei groen fel creadur
Er mwyn gwaedd yr haul wrth ddryllio calon y ddaear
Er mwyn y plas marmor drodd yn furddun fel plu eira
Er mwyn yr ysbyty, mynwentydd o feddau gwyn
Er mwyn yr eglwys gadeiriol drodd yn wagle’n ei chwman
Yn eiriol ar ei gliniau yn wylofain ar Dduw
Yn eiriol ar ei gliniau yn wylofain ar Dduw
Er mwyn y salmau dwys, gweddïau’r byw a’r meirw
Er mwyn y tai sy’n garnedd : o’r crud i’r cwpan sy’n deilchion
Dysglau faluriwyd rhwng dalennau'r meini
Er mwyn yr ysgyfaint a’r ysbaid o aer sy’n rhoi gobaith
Er mwyn y dwylo deifiol yn y düwch all ryddhau
Er mwyn hoen-lithriadeinioes sy’n methu dal gafael
Er mwyn gwawrddydd a wenodd ar wyneb y wraig
Er mwyn ei merch a drengodd yn y gwyll
Er mwyn sgradan baban a aned o’r anghyfannedd
Er mwyn y gweithwyr a ddaw a’u cafn morter o friciau
Er mwyn atgyfodi muriau yfory o’r gladdfa
Dros baderau yr esgyrn sychion.
Menna Elfyn
(Cyfieithiad o gerdd Saesneg Gillian Clarke).
I ddarllen y gerdd yn Saesneg , cliciwch yma.


