Preswyliadau yn y Ganolfan Amlddiwylliannol Hwngaraidd

Preswyliadau yn y Ganolfan Amlddiwylliannol Hwngaraidd

Canolfan Amlddiwylliannol Hwngaraidd

 

Mae’r ‘Hungarian Multicultural Center’ yn gwahodd artistiaid gweledol, awduron a pherfformwyr i gyflwyno ceisiadau am ei rhaglen o breswyliadau yn Budapest, Hwngari.

Mae HMC wedi ymrwymo i hyrwyddo celf ryngwladol a dealltwriaeth o ddiwylliannau byd, trwy gyfrwng arddangosfeydd celf o safon uchel, rhaglenni cyfnewid diwylliannol a rhaglenni addysgol. Mae’r sefydliad, sydd wedi ei leoli yn Dallas a Budapest, yn gweithredu trwy’r byd i gyd. Ei brif ffocws yw rhaglen breswyliadau rhyngwladol sy’n gwahodd artistiaid o bob rhan o’r byd, gan ddarparu iddynt gymuned gefnogol gydag amser difwlch i weithio.

Mae’r preswyliadau hyn yn cynnig cyfle i gyfranogwyr i gydadweithio gydag artistiaid eraill sydd yn cynrychioli amrywiaeth o ddiwylliannau a chefndiroedd. Disgwylir i ymgeiswyr allu siarad a deall Saesneg. Gwahoddir tua chwe artist ar gyfer pob sesiwn. Mae’r preswyliad yn cynnig stiwdio, ystafell, gweithdy, arddangosfa, seminar a thaith o gwmpas orielau yn gynwysedig yn y gost.

Dyddiadau’r rhaglen yw:

11 Mai 2010 - 3 Mehefin 2010   Dyddiad cau: 6 Chwefror 2010
8 Mehefin 2010 - 1 Gorffennaf 2010   Dyddiad cau: 6 Mawrth 2010
6 Gorffennaf 2010 - 29 Gorffennaf 2010   Dyddiad cau: 6 Mawrth 2010
3 Awst 2010 - 26 Awst 2010   Dyddiad cau: 6 Mawrth 2010
22 Medi 2010 - 5 Hydref 2010   Dyddiad cau: 16 Mehefin 2010
27 Rhagfyr 2010 - 11 Ionawr 2011   Dyddiad cau: 6 Medi 2010

Am wybodaeth bellach a ffurflen gais, e-bostiwch bszechy@yahoo.com neu cliciwch yma