Cystadleuaeth Monologau

Cystadleuaeth Monologau

Ceri Elen Casia Wiliam
Ceri Elen a Casia Wiliam - enillwyr y gystadleuaeth

Yn Taliesin 137, cynigiwyd gwobr o £200 am fonolog ar y thema 'ar ddiwedd y dydd'. Roedd y golygyddion a'r Academi'n falch o ddatgan i'r ymateb fod yn hynod gadarnhaol, a derbyniwyd dros 30 o geisiadau. Cefin Roberts fu'n tafoli'r feirniadaeth, a daeth dwy i'r brig. Llongyfarchiadau mawr i Ceri Elen a Casia Wiliam am ddod yn fuddugol. Dywed Cefin Roberts: “Er mor wahanol yw'r ddau o ran arddull, anodd iawn yw rhoi'r naill ar y blaen i'r llall. Rhannaf y wobr rhyngddynt, gan ddiolch i'r holl gystadleuwyr am eu gwaith.”

Gellir darllen y monologau buddugol yn Rhifyn 138 o Taliesin (ar gael o'ch siop lyfrau lleol neu trwy gysylltu â'r Academi: 029 2047 2266).