Sian Melangell Dafydd

Cyhoeddi Enillydd Ysgoloriaeth Lên Ryngwladol

 Sian Melangell Dafydd

Mae enillydd un o brif wobrau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol wedi’i dewis i dderbyn ysgoloriaeth ryngwladol gwerth dros £3,000.
 
Bydd Siân Melangell Dafydd yn cael treulio dau gyfnod preswyl mewn dwy ganolfan ysgrifennu yn Ewrop yn ystod 2010 fel rhan o’r ysgoloriaeth, sy’n cael ei dyfarnu gan Dŷ Cyfiethu Cymru a rhwydwaith Ewropeaidd HALMA.
 
Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Gwynedd, nos Lun 30 Tachwedd 2009.
 
“Mae hyn wedi dod fel syrpreis hynod o braf, a hynny wrth ddod at ddiwedd blwyddyn sydd wedi bod - rhaid dweud - yn un ddihafal a rhyfeddol,” meddai Siân Melangell Dafydd a enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn y brifwyl ym mis Awst 2009 am ei nofel gyntaf Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009).
 
“Drwy ysgoloriaeth HALMA a’r Tŷ Cyfieithu, mae golwg ddiddorol iawn i 2010: cyfle i gael amser i ysgrifennu wrth gwrs, ond hefyd i wella fy ngwaith drwy gydweithio, i ysgrifennu gwaith â gwawr wahanol yn sgil profiadau newydd a thrafodaethau ag awduron rhyngwladol. Rydw i’n arbennig o ddiolchgar am y cyfle ac am y ffydd yn fy ngwaith.”
 
Yn 32 oed, cafodd Siân ei magu ym Meirionnydd ac mae bellach yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Pharis lle mae’n gweithio ar ei hail nofel.
 
Yn ogystal â chyhoeddi enillydd ysgoloriaeth 2010, roedd y digwyddiad yn Nhŷ Newydd hefyd yn nodi dechrau’r cwrs cyfieithu cyntaf i’w drefnu fel rhan o raglen Tŷ Cyfiethu Cymru.
 
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gyfieithu llenyddiaeth Cymru ar gyfer marchnad India ac mae’n dod ag awduron o Gymru ynghyd â chyfieithwyr Bengali, Malayalam a Tamil. Mae’n dilyn y Gadwyn Awduron a ddaeth â llenorion o’r DU ac India at ei gilydd mewn prosiect cyfieithu a reolwyd gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar ran y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
 
“Dyma gyfle heb ei ail i gyflwyno’n llenyddiaeth i gynulleidfaoedd India. Mae’r diwydiant cyhoeddi yn cynyddu yno a gall hon fod yn farchnad bwysig iawn i ni,” meddai Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru a sefydlodd y Tŷ Cyfieithu ar y cyd â Thŷ Newydd ym mis Mawrth 2009.