Beth mae Llenyddiaeth Cymru'n ei ariannu?
Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifainc

Mae’r Academi’n cynnig cyllid i Awdurdodau Lleol i sefydlu Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifainc, sy’n debyg iawn i’r amryfal gynlluniau datblygu chwaraeon yng Nghymru a’r DU. Anogir athrawon, llyfrgellwyr neu drefnwyr addysg sy’n dymuno sefydlu sgwadiau newydd yn eu hawdurdod i gysylltu â’r Academi am gyngor a chymorth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cychwyn mudiad Sgwad Sgwennu i bobl ifanc yn eich ardal, neu os am fwy o wybodaeth am sut mae’r sgwadiau’n gweithredu, cysyllter ag Elena Schmitz (Rheolwr Cynlluniau a Data) ar elena@academi.org, neu Rhiannon McLean (Swyddog Llenyddiaeth) ar rhiannon@academi.org.
Cliciwch
yma am am fwy o wybodaeth am y Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifainc.