Mynediad

Bellach, mae gan Dŷ Newydd gyfleusterau newydd sbon ar gyfer yr anabl.

Mae dau faes parcio ar gyfer yr anabl, un prif faes parcio a lle i un car yn ymyl yr ystafell wely. Mae'r llefydd parcio hyn wedi'u nodi'n glir gydag arwyddion amlwg. O'r prif faes parcio mae llwybr gwastad pob cam at ddrws yr Ystafell Wydr newydd. Oddi yno (sef y llawr canol) gellir defnyddio'r lifft i fynd i'r llawr isaf a thrwy ddrws i'r Ystafell Fwyta, neu i'r llawr isaf un (lle mae lle chwech pwrpasol) neu i fyny i'r llawr uchaf a thrwy ddrws i'r Llyfrgell (fel arfer mae unrhyw sesiynau grwp yn cael eu cynnal yn yr Ystafell Fwyta neu'r Llyfrgell).

  
Y llwybr o'r lle parcio unigol i'r stafell wely bwrpasol (y drws agored ar y dde). Swyddfeydd yw'r drysau ar y chwith

   
Tu mewn i'r stafell wely bwrpasol.

   
Stafell 'molchi a lle chwech .

   
Prif faes parcio.

   
Llwybr o'r prif faes parcio i'r Tŷ Gwydr.


Gellir mynd allan i'r ardd drwy ddrws o'r llawr isaf ac mae modd mynd drwy'r Swyddfa i'r Ystafell Gyfrifiaduron. O'r lle parcio unigol mae llwybr gwastad at ddrws yr ystafell wely ei hun neu at ddrws y cyntedd lle mae lle chwech pwrpasol y drws nesaf i'r stafell wely. O'r lle parcio hwn hefyd mae llwybr gwastad pob cam at ddrws yr Ystafell Wydr a'r lifft.

Mae gennym system cylch is-goch ac rydym hefyd wrthi'n datblgyu ein llenyddiaeth hyrwyddo ar ffurf print bras.

Gobeithio bod y lluniau isod o gymorth i chi, ond os oes gennych anghenion eraill neu angen trafod unrhyw agwedd o fynediad i Dŷ Newydd, rhowch alwad ffôn i ni.

   
Y lifft ar y llawr gwaelod (drws y Brif Swyddfa sydd ar y chwith) a thu mewn y lifft.

   
Y lifft ar y llawr uchaf (drws y Llyfrgell sydd i'r dde o'r lifft) a thu mewn y Llyfrgell.

   
Y lifft ar y llawr isaf (drws yr yYstafell Fwyta sydd i'r dde) a thu mewn yr Ystafell Fwyta.

   
Y drysau dwbl o'r llawr isaf allan i'r ardd.

   
Lle chwech ar y llawr isaf un (dros ffordd i'r lifft)