Myfyrwyr

    Yr Academi Gyrmeig - Myfyrwyr



Wyt ti’n astudio yng Nghymru?

Wyt ti am gael dy ddiddannu gan feirdd, awduron a pherfformwyr llenyddol Cymru…
…neu am fod yn un ohonynt?


Ymunwch â’r Academi Gymreig AM DDIM i gael gostyngiad mewn pris mynediad i 800+ o ddigwyddiadau llenyddol y flwyddyn, gostyngiad mewn tanysgrifiad i nifer o brif gylchgronau llenyddol Cymru, cyfleoedd am brofiad gwaith, a llawer llawer mwy…

Lawrlwythwch daflen yma a phoster yma.


Dyma’r Manteision

  • Blaenoriaeth a gostyngiad i holl ddigwyddiadau Llenyddiaeth Cymru
     
  • Gostyngiad mewn mynediad i’r holl ddigwyddiadau a noddir gan Lenyddiaeth Cymru (edrychwch am y rhain ar ein gwefan o dan ‘Digwyddiadau’, lle y nodir Noddwyd gan Lenyddiaeth Cymru)
     
  • Gostyngiad ym mhris tanysgrifiad i gylchgrawn Taliesin (£17 y flwyddyn yn hytrach na £19)
     
  • Gostyngiad ym mhris tanysgrifiad i gylchgrawn Prole (£16.50 am dri rhifyn yn lle £18, neu £24.50 yn hytrach na £26 os yn dosbarthu i gyfeiriad tu allan i'r DU)
     
  • Gostyngiad o 25% ar danysgrifiad i Poetry Wales (£15 y flwyddyn yn hytrach na £20)
     
  • Gostyngiad ar danysgrifiad i’r cylchgrawn Tu Chwith (£8 y flwyddyn yn hytrach na £14, neu £12 am ddwy flynedd yn hytrach na £24)
     
  • Gostyngiad ar fynediad i ddigwyddiadau penodol yn Venue Cymru yn Llandudno (fe’i hysbysebir ar y dudalen ‘Digwyddiadau’ ar ein gwefan)
     
  • Gostyngiad ar fynediad i ddigwyddiadau penodol yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth (fe’i hysbysebir ar y dudalen ‘Digwyddiadau’ ar ein gwefan)
     
  • Gostyngiad o 10% ar ddeunydd ysgrifennu cwmni MCM, Unedau 4 + 5, The Timberyard, Ffordd Rhosydd y Dwyrain, Caerdydd, CF24 5EE. Ffôn: 029 2047 0003/ Ffacs: 029 2049 2949 / E-bost: sales@mcmofficesupplies.co.uk
     
  • Gostyngiad o 10% oddi ar archebion unigol ym Mythynnod Clynfyw yng Ngogledd Sir Benfro. Ffôn: 01239 841236 / 07980 290522
     
  • Cyngor am ddim ar gyfer awduron
     
  • Gwybodaeth o flaen llaw am ddigwyddiadau, gweithgareddau llenyddol a chyhoeddiadau 
     
  • Gostyngiad o 10% yn Siop Lyfrau Caban, Caerdydd
     

I fwynhau manteision aelodaeth a restrir uchod, bydd angen i chi ddangos eich cerdyn aelodaeth yr Academi Gymreig. Anfonir eich cerdyn aelodaeth unwaith caiff eich taliad ei dderbyn neu ei adnewyddu.


Tâl

Gall myfyrwyr sydd wedi ymrestru yn llawn neu'n rhan-amser mewn cwrs Addysg Bellach neu Uwch yng Nghymru (neu gyda chyfeiriad cartref parhaol yng Nghymru) ymuno am DDIM.


Sut i Ymuno

I wneud cais i fod yn Aelod Myfyriwr, anfonwch lungopi o'ch llythyr derbyn Coleg / Prifysgol neu ffurflen sy'n datgan eich cyfnod llawn o astudio (h.y. rhaid iddo nodi'r dyddiad dod i ben) i: Yr Academi Gymreig / Llenyddiaeth Cymru, 4ydd Llawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL. Yn ogystal, anfonwch y daflen gyda’ch manylion arni (lawrlwythwch yma) NEU nodyn yn datgan eich awydd i ymuno, ynghyd â’ch enw llawn, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn os gwelwch yn dda.