Lynette Roberts

 Lynette Roberts hawlfraint Angharad Rhys

 

Lynette Roberts (1909 - 1995) yw un o feirdd a thraethodwyr adeg rhyfel mwyaf arwyddocaol Cymru. Yn ferch i rieni Cymraeg, ganed Lynette yn Buenos Aires ond daeth y teulu i Gymru a setlo yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y 1940au cynnar. Dyma'r cyfnod y dechreuodd Roberts gyhoeddi ei barddoniaeth a’i rhyddiaith. Rhoddwyd canmoliaeth mawr i waith Roberts gan T.S.Eliot a Robert Graves. Yn un o gyfoedion Alun Lewis a Dylan Thomas, ysgrifennodd y rhan fwyaf o’i gwaith yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra’n byw yn Llanybri. Ni roddwyd llawer o sylw i'w gwaith a bu allan o brint am dros hanner canrif, ond mae ei barddoniaeth a'i rhyddiaith bellach wedi eu hail gyhoeddi gan Carcanet yn y casgliadau canlynol: Lynette Roberts' Collected Poems (2005) a Diaries, Letters and Recollections (2008) (golygwyd gan Patrick McGuinness).

Arweiniwyd y daith gan Dr John Pikoulis gan drafod ei bywyd, ei gwaith a’r tirwedd lle cafodd rhain eu hymgorffori. Cafwyd sawl darlith yn Llanybri a Chwmcelyn am fywyd personol Roberts yn ogystal â darlleniadau o’i dyddiadur. Ymwelwyd hefyd â chartrefi Roberts sef Spring Gardens a Tŷ Gwyn. 

Hawlfraint Angharad Rhys yw'r llun o Lynette Roberts


Lluniau:

   alt

alt   alt

   alt