Menu
Cymraeg
Contact

Rhan o TYFU | GROW – Rhaglen Datblygiad Creadigol Theatr Clwyd

Published Tue 20 Mar 2018 - By Llenyddiaeth Cymru
Rhan o TYFU | GROW – Rhaglen Datblygiad Creadigol Theatr Clwyd
Llun: Emyr Young

Galw am awduron Cymraeg.

Ceisiadau ar agor tan ddydd Gwener 23 Mawrth 2018

Eleni, mae Theatr Clwyd unwaith eto’n cynhyrchu’r Tymor Roundabout ar y cyd â Paines Plough. Byddwn yn gweld première tair drama newydd sbon ar garreg drws Theatr Clwyd fel rhan o’r theatr untro lwyddiannus, sef Roundabout, cyn mynd i Ŵyl Caeredin ac wedyn ar daith yn y DU.

Fel rhan o raglen TYFU Theatr Clwyd a’n hymrwymiad i ddod yn gartref i awduron yng Nghymru, rydyn ni’n gwahodd tri awdur sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg i weithio ochr yn ochr â chwmni Roundabout. Bydd pob awdur yn datblygu sgript 10 munud a fydd yn cael ei pherfformio yn y Roundabout pan fydd y tymor yn agor yn Theatr Clwyd.

Bydd Cyfnod Preswyl Cymraeg Theatr Clwyd Roundabout yn cynnig cyfle i’n tri awdur ddod i adnabod artistiaid eraill, treulio amser yn arsylwi ymarferion a datblygu syniadau mewn amgylchedd cefnogol.

Mae Cyfnod Preswyl 2018 yn cynnwys y canlynol:

  • Llun 16 – Mercher 18 Ebrill: 3 diwrnod yn Llundain wrth i ymarferion Tymor Roundabout ddechrau – cyfarfod y cwmni actio, y tîm creadigol a’r awduron, a phrofi dyddiau cyntaf y gwaith ar y sgriptiau newydd.
  • Yr wythnos yn dechrau ar ddydd Llun 4 Mehefin: 3 diwrnod yn Theatr Clwyd yn arsylwi ymarferion yn y Roundabout ei hun ac amser yn y prif adeilad yn dechrau datblygu sgript.
  • Llun 25 – Sadwrn 30 Mehefin: 6 diwrnod yn Theatr Clwyd i weithio gyda chyfarwyddwr a 3 actor, gan ddatblygu ac ymarfer y sgript ymhellach.
  • Sadwrn 30 Mehefin: Perfformio’r tair sgript 10 munud yn y Roundabout.

Bydd pob awdur yn cael bwrsari i dalu costau teithio, cynhaliaeth a threuliau a ffi o £500.

Sut i Ymgeisio

Os oes gennych chi ddiddordeb, anfonwch e-bost at nerys.edwards@theatrclwyd.com erbyn 5pm ddydd Gwener 23 Mawrth 2018.

Dylai’r neges e-bost gynnwys y canlynol:
•  CV o’ch gwaith fel awdur a manylion am gyflogaeth, hyfforddiant ac addysg arall
•  Disgrifiad byr o ble rydych chi fel awdur
•  Disgrifiad byr o pam fyddech chi’n hoffi ymwneud â’r prosiect hwn
•  Dwy dudalen o sgript rydych chi wedi’i hysgrifennu yn y Gymraeg
•  Cadarnhau eich bod ar gael ar gyfer yr holl ddyddiadau sydd wedi’u rhestru

 

https://www.theatrclwyd.com/cy/cymryd-rhan/datblygu-artist/cynllun-awdur-preswyl/

Literature Wales