Bydd Kate yn cynnig modd o ddyfnhau, ehangu ac agor eich teimladau mewn modd gwbl oddrychol. Bydd yn annog defnydd o eiriau creadigol, myfyriol, llawn mynegiant i arafu, i feddwl a theimlo a synhwyro’r modd y mae’r gwrthrychau hyn yn ein hannog a’n ysgog ni, y gwylwyr.