Mae The Devil’s Violin yn cyflwyno STOLEN
Cipiwyd
mae gobaith o hyd…
Daniel Morden stori
Sarah Moody soddgrwth
Oliver Wilson-Dicksonn ffidil
Ni ddaeth gwarchodwyr i’w gyfarfod ger y palas.
Camodd rhwng pâr o gatiau praff
Drwy siambrau lle atseiniai ei gamre.
Daeth at neuadd oedd yn drwch o niwl – ai cerflun oedd hwnna?
Nage, nid cerflun, ond y Brenin ei hun.
Brenin y wlad hon, mor llonydd a llwyd
â charreg ei orsedd oddi tano.
Daniel Morden fydd yn eich cludo i’r Tir na Ddychwelir Ohono, a chyfeiliant llinynnau llesmeiriol Sarah Moody ac Oliver Wilson-Dickson sy’n gefnlen hudolus i’r storïo.
Aiff yr ensemble â chi ar daith epig drwy dir breuddwydiol, lle dewch ar draws brenin wedi ei droi’n garreg, hen wraig sy’n byw mewn crafanc ceiliog anferth, a dyn a wnaed o wydr ac sy’n llawn cacwn.
Stori afaelgar wedi ei hadrodd yn gelfydd sydd wrth galon sinema, y theatr a llenyddiaeth. Drwy weu straeon traddodiadol i naratif fawreddog, mae Devil’s Violin yn dychwelyd at y galon honno. Dyma hanes cariadon coll, gwroldeb ac, yn anad dim, gobaith.
Addas i bawb dros 10 oed.
“Cyfuniad cyfareddol o gerddoriaeth, sain a stori.” The Times
“Doedd ’na’r un smic i’w glywed … roedd fel petai’r aer i gyd ar y llwyfan gyda nhw. Mae’r gerddoriaeth yn fendigedig.” Bristol Old Vic
“Rydyn ni’n clywed straeon o fewn straeon, megis blychau Tsieinïaidd, a dagrau a chwerthin wedi eu plethu drwyddynt. Y paradocs yw mai ein bywydau bob dydd undonog ni ydy’r straeon hudolus hyn, wedi eu lapio mewn dychymyg a dirgelwch.” Avril Silk
Ewch i www.thedevilsviolin.co.uk am wybodaeth bellach