Llyfr y Flwyddyn

Gwobr Llyfr y Flwyddyn 

www.llyfryflwyddyn.org 

Dyfernir gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru, i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym maesydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol. Dyfernir y gwobrwyon i’r llyfrau gorau a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr. Eleni, fe wobrwyir cyfrolau Cymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod 2011 o fewn tri categori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Teitl y wobr farddoniaeth Saesneg, o'r flwyddyn hon ymlaen, yw Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias. 

Am yr holl wybodaeth ddiweddaraf am Wobr Llyfr y Flwyddyn
ewch i wefan newydd y wobr: www.llyfryflwyddyn.org