Cystadleuaeth Academi - Lingo Newydd

Cystadleuaeth Llenyddiaeth Cymru / Lingo Newydd

Mae Llenyddiaeth Cymru a’r cylchgrawn i ddysgwyr, Lingo Newydd yn cynnal cystadleuaeth flynyddol i ddysgwyr ysgrifennu stori fer yn y Gymraeg. Mae’r gystadleuaeth yn agored i ddysgwyr o bob safon a phrofiad a cyflwynir y wobr ar faes yr Eisteddfod Genedlasethol.   
 

Gwobrau:
Gwobr ariannol o £50
Tanysgrifiad blwyddyn i Golwg a Taliesin
£50 i’w wario ar lyfrau Gwasg Gomer
Aelodaeth blwyddyn i Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddir y stori fuddugol yng nghylchgrawn Lingo Newydd

Enillydd 2008

Catrin Dafydd a’r enillydd, Malcolm Llywelyn

Y beirniad, Catrin Dafydd yn cyflwyno’r wobr i enillydd cystadleuaeth 2008 sef Malcolm Llywelyn o Aberhonddu ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.  Llongyfarchiadau mawr iddo. 

Sylwadau Catrin Dafydd:  Darn annwyl sy’n dangos clyfrwch mewn symlrwydd.  Roedd yma gymeriadau credadwy a rhyngweithio diddorol rhwng y cymeriadau. Cafwyd disgrifiadau heb fod yn ormodol a llifodd y dweud gan yrru’r darllenydd yn ei flaen.