Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd
Prifeirdd a Phrif Lenorion y Dyfodol

Sgwad Sgwennu Gwynedd gyda'r Prifardd Mei Mac a Gwen Lasarus
Mae grŵp o bobl ifainc sy’n ysgrifenwyr brwd wedi ymuno â Sgwad ‘Sgwennu newydd Gwynedd. Bu cyfarfod cyntaf y Sgwad ar 17 Medi a chafodd y grŵp cyfle i fwynhau diwrnod cyfan yng nghwmni’r Prifardd Meirion MacIntyre Huws.
Tros y ddegawd a fu, mae Llenyddiaeth Cymru wedi datblygu nifer o Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc trwy gydweithrediad awdurdodau lleol ledled Cymru. Nod y Sgwadiau yw dod o hyd i ysgrifenwyr disglair ym mhob rhanbarth – boed hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg – a’u cyflwyno i rai o brif awduron a thiwtoriaid ysgrifennu creadigol Cymru.
Yng ngyfarfod cyntaf y grŵp newydd yng Ngwynedd aethpwyd ati i greu cerddi am un o’n arwyr ni yma yng Nghymru, gan ein bod yn dathlu diwrnod Owain Glyndwr ar 16 Medi.
Dyma gerdd Gwenno Lois Jones:
Lliwiau Owain
Clefydd Owain yn diferu o waed
Ar ol brwydr yn erbyn y Sais
Machlud haul ar ei gefn
Yn dangos llwyddiant y frwydr
Mae ei fyd yn goch i gyd.
Plu gwynion yn digleirio o dan ei draed
Gwin gorau yn aros amdano yn y llys
A gwisg glan perffaith yn
Neidio ar y gaseg a mynd
Gwyn ei fyd.
Cwmwl du yn pasio’r haul
Bran fawr yn crawcian yn groch
Owain yn sylweddoli boc drwg ar ei ffordd
Mae ei fyd yn tywyllu.
Dywedodd Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd sydd yn trefnu’r Sgwad Sgwennu:
“Mi fydd y plant yn cofio’r diwrnod yma am flynyddoedd i ddod, maent wedi mwynhau yng nghmwni Y Prifardd Mei Mac ac wedi cael blas ar fod yn feirdd. Y gobaith ydi bydd y plant yn parhau i fod yn aelodau o’r Sgwad am flynyddoedd eto, a byddant yn dysgu am wahanol ffurfiau o ysgrifennu gan awduron profiadol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Efallai bydd rhai o rhain yn llwyddo i gipio Coron, Cadair neu Fedal yn un o’n Eisteddfodau ni; a dilyn ôl troed cyn aelod o’r Sgwad, sef Llŷr Titus a ennillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe 2011.”
Os am fwy o fanylion am Sgwad Sgwennu Gwynedd yna cysylltwch a :
Gwen Lasarus, Llyfrgell Caernarfon, Lôn Pafiliwn, Caernarfon, Gwynedd LL55 1AS
GwenLasarus@gwynedd.gov.uk / 01286 679465


