Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd
Mae Prosiect Datblygu Llenyddiaeth Gwynedd yn bartneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Mae gweithgareddau a phrosiectau Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd yn cynnwys Hei Hogia, sioe deithio ddwyieithog sy’n annog bechgyn yn eu harddegau i ddarllen ac ysgrifennu eu straeon eu hunain, clybiau darllen i blant ac oedolion, gweithdai cynghanedd, grwpiau Darllen Gyda'n Gilydd, Sgwadiau 'Sgwennu'r Ifainc, teithiau llenyddol, a digwyddiadau eraill ledled y sir.
Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau a phrosiectau yng Ngwynedd, cysylltwch â
Gwen Lasarus
Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd
Cyngor Gwynedd
Llyfrgell Caernarfon, Allt Pafiliwn,
Caernarfon, Gwynedd LL55 1AS
01286 679465 gwenlasarus@gwynedd.gov.uk


