Stomp y 'Steddfod
Catrin Dafydd yn ennill y Stomp
Ar nos Wener 6 Awst, cynhaliwyd Stomp y 'Steddfod ym Maes C, ar faes carafannau'r Eisteddfod Genedlaethol. Unwaith eto eleni, roedd y neuadd dan ei sang, a phawb yn barod am noson fawreddog o farddoniaeth, chwerthin a chardiau lliw. Dan arweiniad y Stompfeistr Arwel 'Pod' Roberts, cafwyd perfformiadau cofiadwy iawn gan bedwar bardd ar ddeg a fu'n cystadlu am y gorau i ennill stôl y Stomp.
Y pedwar bardd a ddewiswyd i'r rownd derfynol drwy bleidleisiau'r gynulleidfa oedd Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Eurig Salisbury a Rhys Iorwerth. Gydag ond un cyfle arall i greu argraff ar y gynulleidfa, Catrin Dafydd a gipiodd stôl y Stomp gyda'i chyfuniad unigryw o gân a rap yn sôn am y 'Steddfod.
Ymhlith y stompwyr eraill oedd Gruffudd Antur, Aneirin Karadog, Gwilym Dwyfor, Ifan Prys, John Glyn Jones, Twm Morys, Karen Owen, Llyr Gwyn Lewis, Huw Erith a Nici Beech.



