Adolygiad Buddsoddi CCC

Adolygiad Buddsoddi

Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae'r Academi'n falch iawn i gyhoeddi bod yr Academi yn un o'r sefydliadau ym mhortffolio Cyngor Celfyddydau Cymru y bwriedir eu hariannu gydag arian refeniw o Ebrill 2011.  Cyhoeddodd Cyngor y Celfyddydau canlyniadau eu Hadolygiad Buddsoddi ddydd Mawrth 29 Mehefin yn dilyn adolygiad manwl o'r sefydliadau bu'n derbyn arian refeniw ganddynt.
 
Mae'r Academi'n edrych ymlaen at drafod manylion y cytundeb ariannu gyda Chyngor y Celfyddydau ac i gynllunio ei dyfodol fel yr asiantaeth datblygu llenyddiaeth yng Nghymru.
 
Yn y cyfamser, bydd gweithgareddau a chyfrifoldebau arferol yr Academi yn parhau a cheir wybodaeth am holl waith yr Academi ar y wefan yma.
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Academi: 029 2047 2266 neu post@academi.org