Dilyn Ôl Troed Kate Roberts
Aelod o Sgwad `Sgwennu Gwynedd yn Dilyn Ôl Troed Kate Roberts
Llongyfarchiadau mawr i Grug Muse o Fron, Caernarfon sy'n aelod blaenllaw o Sgwad `Sgwennu Gwynedd am ddod yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Stori Fer Kate Roberts (grŵp oedran 12 – 17 oed). Lansiwyd y gystadleuaeth yn Eisteddfod Meirionnydd a'r Cylch, ac fe'i trefnir ar y cyd rhwng Canolfan Cae'r Gors, Cynllun Hyrwyddo Gwynedd a Phrifysgol Cymru. Darllenir y stori ar Radio Cymru a'i chyhoeddi ar wefan Cae'r Gors a'r Academi. Dyma stori Grug:
Cymdeithas
Does 'na ddim byd gwaeth na phabell oer, wlyb, a chithau yna ar eich pen eich hun. Dyna lle roedd Dylan, ar ei ben ei hun yn rhynnu mewn sach gysgu denau. Doedd o wir ddim yn gwybod be oedd o'n da yna, ac mi oedd o'n teimlo ar goll yn llwyr. Ac yntau'n dynesu at ei ddeg ar hugain teimlai'n hen braidd i aros ym maes B, ac eto doedd o ddim yn meddwl ei fod o'n ddigon hen i ymuno efo'r hen begors ym maes C. Bodlonodd felly ar ryw gae fferm anghysbell. Doedd ganddo wir ddim syniad sut yr oedd ei chwaer wedi ei berswadio i ddod i dreulio wythnos yn yr un lle oedd yn ymgnawdoli'r holl nodweddion yr oedd o'n casáu yn y genedl fach oedd o'n rhan ohoni. Aros mewn pabell oer, mewn cae mwdlyd, yn smalio ei fod o’n nabod dieithriaid amheus oedd yn honni eu bod yn perthyn iddo. Ond, fel bardd ifanc, credai ei chwaer Alwen ei bod yn ddyletswydd iddo ddod i gefnogi prifwyl ddiwylliannol Cymru. Doedd hi ddim yn deall ei fod o'n wrthsefydladwr rhonc, ac yn wrthyn treulio unrhyw amser yng nghwmni
cyfryngis ac eisteddfodwyr ffroenuchel. Ond dyna hi, roedd o wedi addo, a dyna pam ei fod o rŵan yn swatio'n hunandosturiol mewn cornel dywyll o ryw gae mwdlyd.
Roedd o wedi gobeithio codi y bore canlynol mewn gwell tymer, ond na. Rhywsut roedd y gwlith wedi treiddio i bobman, gan wneud pob dim yn wlyb, a doedd cornflakes soeglyd yn apelio dim. Penderfynodd ei mentro hi ar faes yr eisteddfod, gweld os fasa fo'n medru dod o hyd i ryw gyri bach am frecwast. Penderfynodd gerdded yno, gan basio pabell las Maes B ar y ffordd. B am be, tybed? meddyliodd. Bar, ma'n siŵr. Ieuenctid Cymru'n ymgasglu mewn pabell fawr am eu sesh flynyddol. Meddwi'n dwll, er mwyn anghofio faint oedde nhw wedi yfed, wedyn deffro y bore canlynol mewn pabell oer- mwy na thebyg un dieithr. Ond doedd dim drwg yn hynny, nac oedd? Pwy oedd o i'w barnu, ac yntau'n arfer bod yn un o'r gwaetha ohonyn nhw? Unwaith y flwyddyn oedd o beth bynnag; uchafbwynt y flwyddyn i rai ohonyn nhw- pam gwrthod hynny iddyn nhw? Clywodd lais ei chwaer yn ei ben “ Mae o'n blino'n enaid i i feddwl faint o bres mae'r plant na'n wario ar gwrw yn y maes B na,
pres i rhieni nhw ranfwya, fentra i, dim ond iddyn nhw gael byw’n ofer am un wythnos. Plant y dyddia yma, mewn difri! Rhoi enw drwg i’r eisteddfod de, a chymdeithas Cymru'n gyffredinol” Eto, roedd Alwen wastad yn edliw am rywbeth neu'i gilydd. Gadael i'r plant gael eu hwyl- digon buan y tyfa nhw i fyny.
Erbyn iddo gyrraedd yr eisteddfod ( ar ôl talu £15 i gael myn i mewn- chwyddiant, myn diawl i!)
roedd o wedi dechrau teimlo'n boeth dan goler ei ddillad blêr yng nghanol yr holl bobl grand oedd fel morgrug prysur o gwmpas y lle, mor gynnar â 9.30 yn y bore! Dihangodd cyn gynted ag y gallai i gysgod un o'r safleoedd bwyd, a phrynu cyri (£5 arall wedi mynd yn barod). Sdelciodd o gwmpas y fan honno am ychydig, cyn mentro at y stondinau. Yr un hen wyneba- cymorth Cristnogol, prifysgol Bangor, Cowbois… Yn sydyn clywodd lais yn galw arno o berfeddion pabell merched y wawr.
“Dylan- Dylan Wyn… ia chdi! Tyd yma i mi gael dy weld di…Ti di tyfu do?” Ac yntau yn naw ar hugain oed erbyn hyn, pendronai’n fawr pam fod ei anti Elin dal i deimlo'r angen i roi sylw ar ei daldra.
“ Syd da chi Anti Elin?” holodd.
“Iawn sdi was. Ti'n cystadlu heddiw?”
“Nadw chi, jest dod i edrych ar ôl plant Alwen tra bo hi'n y côr”
“Fedrith i gwr hi'm gneud hynna?”
“Na, mae o'n y côr hefyd 'lwch
“O, wela i. Ti di gweld dy fodryb Leisa o gwmpas y maes ‘ma ‘dwa?”
“Naddo chi” Yr un rigmarol bob blwyddyn. Smalio bod yn glen efo riw bobol doedda’ chi prin yn adnabod. Dyna un peth am Gymru oedd wir yn mynd dan i groen o- doedd na byth unrhyw lonydd i'w gael. Lle bynnag oedde chi, mi roedd 'na wastad riwin a allai gario clecs yn ôl i'ch mam. Pawb yn perthyn- y Prif Weinidog yn gyfyrder i anti Jen drws nesa, Blodwen Post yn chwaer-yng- nghyfraith i’r archdderwydd, a Nain G’narfon yn perthyn trwy briodas i Crwys. Er, mae'n siŵr fod 'na fanteision i'r sefyllfa hefyd. Roedd yn well na chael pobol yn anwybyddu eich bodolaeth yn llwyr, doedd? Wrth gerdded ar hyd y maes, yn dweud helo wrth yr hwn a'r llall, daeth teimlad rhyfedd o fod yn perthyn drosto. Roedd hi'n braf cael teimlo'n boblogaidd- doedd o ddim wedi sylweddoli faint o bobl oedd o yn ei nabod! Yn ei hwylia da penderfynodd fentro tua'r babell len, a dyma fo'n cyrraedd mewn pryd i gael gwylio ymryson y beirdd. Rhaid oedd iddo gyfadde’, roedd
rhywbeth braf mewn gwylio beirdd ifanc, yn ogystal ar rhai mwy…aeddfed yn trin barddoniaeth mewn modd mor hwyliog. Wrth gerdded allan stopiodd i siarad efo hen ffrind ysgol, Gwilym Elgan.
“Ti dal yn barddoni ta?”
“Yndw, wel weithia', riw chydig de. Be amdana' chdi?”
“Dwi'n darlithio ym Mangor rŵan 'sti. Ond barddoniaeth ydi'n ngwir gariad i dal fod. Dim ond yng Nghymru y medri di gael barddoniaeth yn rhan mor annatod o ddiwylliant poblogaidd sdi', y 'pop' culture' ‘ma de”
“Dwi'm yn meddwl bod y 'steddfod yn be sa'r rhan fwya' o bobl yn ei alw’n 'pop culture de!”
“Ti'n gwbod be dwi'n feddwl. Ma na fwy o barch at feirdd yn fama dwi'n meddwl sdi- Mae o'n cael ei fagu'n ein plant ni wrth iddyn nhw dyfu i fyny, yn gwylio seremoni'r cadeirio ac yn y blaen”
“Ia, ond tydi pob bardd ddim yn ennill cadeiria, nadi, nac yn cyboli efo riw gynganeddion!” Cochodd Gwilym wrth sylwi ei gamgymeriad. Roedd o wedi taro clais dwfn iawn. Symudodd ymlaen yn gyflym.
“Wel, braf iawn siarad â chdi Dylan, ond mae gennai… ym.. ymarfer côr mewn chwarter awr, ma'n rhaid i fi fynd yli”
“Iawn, hwyl i ti” Roedd Dylan wedi gobeithio cael treulio diwrnod yn yr eisteddfod heb gael ei atgoffa o'r digwyddiad anffodus hwnnw yn seremoni'r cadeirio bron i ddeg mlynedd yng nghynt. Yntau, yn fardd ifanc, llawn asbri a hyder wedi ceisio am y gadair. Cyd-ddigwyddiad trist iawn oedd ei fod ef, a'r buddugol efo'r un ffug enw. Hyd heddiw, ni wyddai pam iddo godi ar alwad y corn gwlad, gan achosi dryswch llwyr i'r cyrchwyr a'r dynion camera. Ni chystadlodd yn yr un eisteddfod wedi hynny, a ciliodd yn llwyr oddi wrth lygad unrhyw feirniad.
Yn cerdded tua chyfeiriad pabell y dysgwyr oedd o pan y gwelodd o hi. Yn cerdded yn ei gyfeiriad o mewn ffrog binc flodeuog, stiletos mawr, sbecdol haul anferth a chynffon o ddynion camera, cynhyrchwr a dynes golur yn ei dilyn. Carys Eluned, y ferch ddaru fo gusanu ym mharti nos ei rali ffermwyr ifanc gynta’. Doedd o heb ei gweld hi wyneb yn wyneb ers blynyddoedd, ond doedd hi heb newid o gwbl.
“Carys, hei, Carys, syd wyt ti ers talwm?” galwodd, mewn moment sydyn o hunanhyder. Chwalwyd ei hunan hyder yn deilchion wrth iddi edrych yn syth drwyddo, fel tasai'n ddarn o faw, heb unrhyw fath o gydnabyddiaeth ei bod hi'n ei nabod o gwbl. Ciliodd mewn cywilydd at babell y BBC. Dyna pryd y teimlodd ddwy afr yn hyrddio eu hunain i mewn i’w gefn. Trodd, a gweld ei ddwy nith fach yn gwenu'n annwyl arno, a'i mhâm yn sefyll y tu ôl iddynt.
“Reit ta genod, ma'ch yncl Dylan yma rŵan i edrych ar eich hola chi- bihafiwch, iawn!”A gyda hynny trodd ei chwaer ar ei sawdl a mynd tuag at gefn y pafiliwn. Ochneidiodd Dylan. Treuliodd weddill y pnawn yn rhedeg ar ôl yr efeilliaid pump oed fel gafr ar daranau. Erbyn i'w chwaer ddod i'w pigo i fyny o'r babell fwyd am bump o'r gloch roedd wedi llwyr ymladd.
Wrth orwedd yn ei babell unig y noson honno, doedd yr un teimlad o arswyd ac oedd ganddo'r noson gynt ddim yna. Efallai nad oedd cael eich cyhuddo o fod yn perthyn i ddieithriaid amheus, neu gael llu o gyn- ffrindiau ysgol yn gweiddi cyfarchion gôr- hapus arnoch chi mor ddrwg wedi'r cyfan. Rargol, meddyliodd- fyddai'n prynu carafán a thocyn wythnos yn y munud!



