Pen-blwydd yr Academi Gymreig

Dathlu pen-blwydd yr Academi yng nghwmni un o'r sylfaenwyr

Bobi Jones

Mae'r Academi Gymreig yn 50 eleni. Yn sgîl sgyrsiau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams y sefydlwyd yr Academi Gymreig. Cynhaliwyd y cyfarfod ffurfiol cyntaf ym mis Ebrill 1960. Un o'r amcanion cyntaf oedd cyhoeddi Taliesin.

Er mwyn nodi'r garreg filltir hon, mae'r Academi wedi trefnu cinio arbennig yng ngwesty'r Conrah, ger Aberystwyth, nos Sadwrn 6 Mawrth, i ddilyn yr Ysgol Undydd. Rydym yn falch iawn y bydd Bobi Jones, un o sylfaenwyr yr Academi Gymreig, yn bresennol i annerch y gynulleidfa wedi'r cinio. Byddwn hefyd yn dathlu apwyntiad Bobi Jones fel Llywydd Anrhydeddus Aelodau Cymraeg yr Academi.

Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd fydd i'r cinio. Cysylltwch â'r Academi: 029 2047 2266 neu post@academi.org i archebu'ch lle.