Dydd y Farn
Mae'r digwyddiad hwn wedi gwerthu mas.
Dydd y Farn - Ysgol Undydd ar Sefyllfa Beirniadaeth yng Nghymru

Dydd Sadwrn 6 Mawrth 2010, o 10.30 am - 4.30 pm
Y Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth SY23 2AZ.
O feriniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol i sefyllfa adolygiadau yn y wasg, o ffenomena’r clybiau darllen i arolwg arbennig ar feirniadaeth gelfyddydol byd-eang – dyma ddiwrnod difyr, dadlennol a dadleuol i bawb sy’n ymddiddori mewn llenyddiaeth a’r celfyddydau. Bydd cyfle hefyd i’r gynulleidfa ymateb, wrth i banel gyflwyno adolygiadau byw o lyfrau, ffilmiau a dramâu a ddetholir yn arbennig o flaen llaw.
Bydd llu o awduron, beirdd a beirniaid yn cymryd rhan, yn cynnwys Alan Llwyd,
Ceri Wyn Jones, Dafydd Morgan Lewis, Gareth Miles, Jon Gower, Karen Owen, Menna Machreth, Siân Melangell Dafydd, Sioned Williams a Dr Kate Woodward.
Y pris yw £12 (neu £10 i aelodau’r Academi ac Undeb yr Ysgrifenwyr), sy’n cynnwys cinio, te, coffi a’r holl sesiynau.
Dewch i ymuno yn yr hwyl ac i ddweud eich dweud.
I neilltuo eich lle neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org
Trefnir gan Academi mewn cydweithrediad ag Undeb yr Ysgrifenwyr.
Ewch i dudalen facebook Dydd y Farn yma


