Passa Porta: Awduron Preswyl

Passa Porta: Awduron Preswyl

Het Beschrijf

Mae Adran Diwylliant y Gymuned Ffleminaidd a Het beschrijf, y sefydliad llenyddol ym Mrwsel yn cynnig preswyliadau i awduron rhyngwladol ym Mrwsel a Vollezele.
Bydd modd i’r awduron gwadd ddewis aros yng nghanol y ddinas neu yng nghefn gwlad Brwsel. Gall hyd yr arhosiad amrywio o bythefnos i ddau fis.

Mae’r tŷ llenyddol rhyngwladol, Passa Porta, yn cynnig fflat Art Deco yng nghanol dinas brysur Brwsel, Mae’n cynnwys salon llenyddol, siop lyfrau amlieithog, cornel ddarllen, sgwrsio a chyfarfod, gofod ar gyfer gweithdai a fflat distaw ar gyfer awdur preswyl. Bydd rhai preswylwyr yn cyfranogi mewn nosweithiau llenyddol a fynychir gan y cyhoedd a sesiynau gwaith a gweithdai gyda chyfieithwyr a chyd-awduron.

Am wybodaeth bellach cliciwch yma