Gwefan newydd Sgwadiau `Sgwennu
Gwefan Newydd Sgwadiau `Sgwennu'r Ifainc

Mae'r Academi'n falch o gyhoeddi fod gwefan newydd sbon wedi ei chreu ar gyfer Sgwadiau `Sgwennu'r Ifainc.
www.sgwadiausgwennu.org / www.writingsquads.org
Tros y ddegawd a fu, mae'r Academi wedi datblygu nifer o Sgwadiau `Sgwennu trwy gydweithrediad awdurdodau lleol ledled Cymru.Nod Sgwadiau `Sgwennu'r Ifainc yw dod o hyd i ysgrifenwyr disglair ym mhob rhanbarth - boed hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg - a'u cyflwyno i rai o brif awduron a thiwtoriaid creadigol Cymru.
Mae'r wefan newydd yn safle arbennig ar gyfer cynllun y Sgwadiau `Sgwennu ac wedi ei anelu at aelodau'r Sgwadiau, trefnwyr, athrawon, rhieni, awduron ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y Sgwadiau. Mae'r wefan yn cynnig gwybodaeth ar beth yn union yw Sgwad, sut y maent yn gweithredu, yn ogystal â gwybodaeth unigol ar bob Sgwad yng Nghymru. Mae yma wybodaeth am awduron sydd wedi gweithio gyda'r Sgwadiau a darnau o waith gan rai o'r aelodau.
O fewn y misoedd nesaf bydd galeri ar y wefan, a byddwn yn creu e-gylchlythyr yn arbennig ar gyfer y Sgwadiau.
I gyd-fynd â'r wefan, mae'r Academi hefyd wedi lansio taflen am y Sgwadiau a'i yrru i bob awdurdod lleol.
Gwobrwywyd yr Academi â Dyfarniad Cwmni Disglair gan Gyngor Celfyddydau Cymru ym 2008-2010, ac rydym yn datblygu a gwella cynllun Sgwadiau ’Sgwennu’r Ifainc gyda’r nawdd ychwanegol hwn. Mae dignyddiadau’r Sgwadiau wedi cynnwys Cynhadledd y Sgwadiau ’Sgwennu, gweithdai yng Ngwyl y Gelli ac Eisteddfod yr Urdd ac mae gweithgarrwch wedi ei drefnu ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Bala, ac yn y Senedd i ddathlu deng mlwyddiant Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


