Gwibdaith Lenyddol Gillian Clarke a Dic Jones
Gillian Clarke a Dic Jones yng Ngheredigion
Sadwrn 11 Gorffennaf
Man Cychwyn/Gorffen: Aberystwyth
Gwibdaith Ddwyieithog – darperir cyfieithiad Saesneg
Ymunwch â ni ar wibdaith a fydd yn canolbwyntio ar weithiau dau o awduron mwyaf cydnabyddedig y Gymru gyfoes; Gillian Clarke, y Bardd Cenedlaethol a Dic Jones, Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r ddau awdur yn trigo yng Ngheredigion, a byddwn ninnau’n ymweld â mannau sy’n agos at galonnau’r ddau ohonynt. Bydd y wibdaith yn dechrau yng Ngorsaf Drenau Aberystwyth am 9.00 am. Bydd Gillian Clarke yn ymuno â ni trwy gydol y dydd yn ogystal â’r llenorion Ceri Wyn Jones ac Idris Reynolds, sy’n gyfarwydd iawn â bywyd a gwaith Dic Jones. {Noder, os gwelwch yn dda, na fydd Dic Jones yn ymuno â ni ar y daith oherwydd salwch}
Fe’n harweinir i Drefenter, Tresaith, Tan-y-groes a Chapel Pisgah a chawn glywed cerddi sydd wedi eu hysbrydoli gan y llefydd arbennig yma. Cawn hefyd gyfle i ddysgu mwy am Feirdd y Cilie a Beirdd y Mynydd Bach. Byddwn yn mwynhau paned yng ngwesty moethus y Conrah, yn ciniawa yn Llanerchaeron ac yn gorffen yn hoff dafarn Gillian – Glan-yr-afon, yn Nhalgarreg, cyn cychwyn nôl am Aberystwyth.
Pris Tocynnau: £37.00 / £35.00 (Aelodau a Chefnogwyr yr Academi)
Mae’r pris yn cynnwys te a choffi, cinio, cludiant yn ogystal â’r darlithoedd, darlleniadau a’r sgyrsiau. Rhoddir ad-daliad os hysbysir yr Academi dair wythnos cyn y digwyddiad. Tynnir costau gweinyddol o’r ad-daliad.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Academi
029 2047 2266 / post@academi.org
www.academi.org
Gwibdeithiau Llenyddol i Ddod:
Lewis Jones yng Nghwm Clydach, Sadwrn 19 Medi 2009
Man Cychwyn/Gorffen: Caerdydd
Gwibdaith trwy gyfrwng y Saesneg
Nid oes ffuglen sy’n ymateb i hanes meysydd glo y de yn yr un modd a gweithiau Lewis Jones, Cwmardy a We Live. Bydd y wibdaith hon yn cynnwys taith gerdded hyd ochr afon Clydach, heibio i ddau lyn ac i ganol y mynyddoedd yn ogystal ag ymweliad â safle hen bwll glo y Cambrian; man canolog i’w nofelau. Byddwn yn ymweld â safleoedd dau o gyn-gartrefi Jones; un ble ysgrifennodd ei ddwy nofel. Dechreuir y daith ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, ble bydd Dr Ben Curtis yn trafod hanes cymdeithasol a gwleidyddol y cwm a bydd Dr John Pikoulis, Cyd-gadeirydd yr Academi, yn trafod personoliaeth Jones yng ngoleuni Cwmardy.
Dafydd ap Gwilym yng Ngheredigion, Sadwrn 24 Hydref 2009
Man Cychwyn/Gorffen: Aberystwyth
Gwibdaith trwy gyfrwng y Gymraeg: Ni ddarperir cyfieithiad Saesneg
Dafydd ap Gwilym yw un o feirdd mwyaf y Gymraeg ac mae’n dal lle blaenllaw ymysg holl feirdd Canol Oesol Ewrop. Dilynwn ôl ei droed wrth ymweld â Brogynin, ble tybir y’i ganwyd, yna draw i Eglwys Llanbadarn – lleoliad ei gerdd enwog Merched Llanbadarn cyn profi hud a dirgelwch Ystrad Fflur. Arweinir y daith gan arbenigwr ar y bardd, Dr Huw Meirion Edwards, Darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, ac fe’n harweinir yn ôl hyd lwybrau hanes yn llawn asbri Dafydd ap Gwilym. Cewch gyfle hefyd i geisio cyfansoddi llinell neu ddwy o gynghanedd, tra’n ciniawa yn y Talbot yn Nhregaron.
Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen archebu.



