Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2009
Petrograd yw Llyfr y Flwyddyn 2009

Mewn seremoni fawreddog nos Lun 15 Mehefin 2009 yng Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd cyflwynodd Luned Emyr siec o £10,000 i’r awdur Wiliam Owen Roberts am ei gyfrol Petrograd (Cyhoeddiadau Barddas) a wobrwywyd yn Llyfr y Flwyddyn 2009.

Beirniaid y wobr ar gyfer y Llyfr Cymraeg gorau oedd Luned Emyr, Derec Llwyd Morgan a’r Athro Gwyn Thomas.
Ganed a magwyd Wiliam Owen Roberts yng Ngarndolbenmaen. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Petrograd yw ei bedwaredd nofel ac ynddi cawn hanes dau deulu sydd yn gorfod wynebu newidiadau personol a gwleidyddol yn sgil y Chwyldro yn 1917 yn Rwsia.
Y ddwy gyfrol arall ar y Rhestr Fer oedd Teulu Lòrd Bach gan Geraint V Jones (Gomer) a Pentigily gan Hefin Wyn (Y Lolfa)
Meddai Luned Emyr: “Ar ddechrau’r gwaith o gydgloriannu, syndod braf, os nad fymryn yn annisgwyl, i’r tri ohonom oedd gweld fod cymaint o gytundeb rhyngom wrth i ni ddewis y cyfrolau gorau yn ein tyb ni. Mae’r tair cyfrol sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn hynod o uchelgeisiol, ac mae yma nifer o rinweddau.”

Yr enillydd yn Saesneg yw Deborah Kay Davies am ei chyfrol Grace, Tamar and Laszlo the Beautiful (Parthian).
Wiliam Owen Roberts hefyd gipiodd Wobr Barn y Bobl ITV Cymru 2009 am ei nofel Petrograd (Cyhoeddiadau Barddas). Ers cyhoeddi’r Rhestr Hir o ddeg teitl ddiwedd Ebrill, mae’r cyhoedd wedi bod yn pleidleisio i’w ffefryn nhw o blith y teitlau hyn i ennill y wobr answyddogol hon. Stephen May enillodd Wobr Barn y Bobl Media Wales 2009 am ei gyfrol TAG (Cinnamon Press), ffefryn y cyhoedd o blith y Rhestr Hir Saesneg.


