Beirdd Cymru’n Cyfarch yr Arlywydd Newydd

 Cerddi i Obama

Barak Obama

Bydd yr Academi’n anfon cerddi cyfarch gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, a Bardd Plant Cymru, Ifor ap Glyn at y darpar Arlywydd Barack Obama.

Cyflwynir y cerddi iddo i nodi achlysur ei urddo’n Arlywydd ar ddydd Mawrth 20 Ionawr. Barack Obama fydd y person cyntaf o dras Affro-Americanaidd i fod yn ddeiliad y swydd hon. Roedd Gillian Clarke, o Dalgarreg, ac Ifor ap Glyn, o Gaernarfon, yn ei hystyried yn “fraint” i gael anfon eu cerddi ato.

Sefydlwyd swydd Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2005 gan Academi gyda chymorth nawdd Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru. Cynllun ar y cyd rhwng yr Urdd, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Academi yw Bardd Plant Cymru.

Bydd Gillian ac Ifor yn darllen eu gwaith yn Washington fis Mehefin fel rhan o ddigwyddiadau Gwyl Smithsonian Cymru 2009.

Camp Obama

Daeth niwl ar lannau’r Mississippi gyda’r hwyr,
a’r arwyddion neon yn nofio,
wedi gollwng angor o’r strydoedd islaw…

Ac ar y teledu, yn ôl yn y gwesty
daeth hud ar genedl gyfan
a chyd-ddathlais y jiwbili fawr
wrth i ddyn o’r hen gyfandir
gynnig ei obeithion powld
i genedl gyfan gyndyn
o wynion a chyngaethion…

Ond ar sianel arall
yng nghannwyll llygad rhyw stadiwm peldroed
gwelais gewri duon
yn hyt-hyt-hyrddio’n chwyrn i’w gilydd,
ac enwau fy hil,
yn Evans a Griffiths a Davis a Jones
yn warthnod ar eu gwarrau llydan…

A champ i’r mab darogan hwn,
roi cnawd am esgyrn etholiad,
chwythu anadl i’r gobeithion powld,
ac impio croen yfory
ar greithiau ddoe…

Ifor ap Glyn, Bardd Plant Cymru 2008-9

I ddarllen cerdd ein Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke, ewch i’r dudalen hon yn Saesneg