Gwyddoniadur
CADAIR IDRIS
Cadair Idris (893m) yw mynydd uchaf Cymru i’r de o Aran Fawddwy. A’i greigiau Ordofigaidd yn codi’n dalsyth bron o’r môr, arferid credu yn ystod yr 16g. mai hwn oedd mynydd uchaf Prydain. Mae peintiad Richard Wilson, Cadair Idris, Llyn-y-cau (c.1765), un o gampweithiau celf y 18g., yn crynhoi gogoniant ei uchelfannau. Câi ymwelwyr â’r gogledd a fanteisiai ar y rheilffordd rhwng Wrecsam ac Abermaw y wefr o deithio dan drem cysgodion trwm clogwyni Cadair Idris ac amlinell lom ei grib 13km o hyd. Nid rhyfedd mai hwn am gyfnod oedd mynydd mwyaf adnabyddus Cymru. Siôn Dafydd Rhys oedd y cyntaf i gofnodi’r chwedl a’i cysylltai ag Idris Gawr; tynged pwy bynnag a gysgai ar wely Idris, meddid, fyddai deffro naill ai’n fardd neu’n wallgof. Bendithiwyd y mynydd â’r gwychaf o beirannau Prydain – y pant mawreddog y gorwedda Llyn Cau ynddo. Er diogelu ei blanhigion arctig-alpaidd, dynodwyd y rhan fwyaf o’r mynydd-dir
hwn yn Warchodfa Natur Genedlaethol. Ceir o’r copa – Pen y Gadair (Llanfihangel-y-Pennant) – olygfeydd gwych ar yr achlysuron prin hynny pan fo’r awyr yn glir; yr olygfa wychaf o ddigon yw honno i gyfeiriad aber hardd afon Mawddach ac amlinell arfordir Bae Ceredigion.