Gwyddoniadur
BAEDD GWYLLT, Y
Roedd y baedd gwyllt yn bresennol yng Nghymru mewn rhai cyfnodau rhyngrewlifol, a cheir tystiolaeth archaeolegol o’i bresenoldeb o’r Oes Neolithig hyd y cyfnod Rhufeinig, pan fu i gynnydd mewn moch dof, a grwydrai’n rhydd, roi cryn bwysau ar y boblogaeth wyllt. Ystyrid y baedd gwyllt yn anifail cysegredig gan y Celtiaid ac mae stori hela’r Twrch Trwyth – brenin wedi’i drawsnewid yn faedd enfawr – gan Arthur yn chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ yn Y Mabinogion yn cyfleu arwyddocâd y baedd yng Nghymru’r gorffennol pell, ac yn cyfleu gwefr a pherygl yr helfa. Ceir sawl enw afon sy’n cynnwys yr elfennau ‘twrch’, ‘banw’ a ‘gwythwch’ (neu eu tebyg). Ond dichon mai cyfeirio’n ffigurol at rym llifeiriol y d?r y mae’r ffurfiau, yn hytrach na dynodi unrhyw gysylltiadau mytholegol.Yn y cyfreithiau Cymreig (gw. Cyfraith), roedd i’r mochyn gwyllt yr un gwerth ag un dof, ac yn wir roedd y ffaith ei fod yn epilio’n dda a bod ei fwyd yn llawn amrywiaeth yn ei wneud yn anifail hawdd ei ddofi. Ni ddiflannodd y baedd gwyllt o Brydain tan ddiwedd yr 16g., ond mae’n debyg nad oedd rhywogaeth wyllt yng ngwir ystyr y gair yn bod yng Nghymru ar ôl diwedd y 13g., oherwydd croesfridio gyda moch dof.


