Gwyddoniadur

AARON,  Richard I(thamar) (1901–87) Athronydd

Brodor o Flaendulais a fu’n fyfyriwr yng Nghaerdydd a Rhydychen. Tra oedd yn ddarlithydd mewn athroniaeth yn Abertawe, cyhoeddodd Hanes Athroniaeth: o Descartes i Hegel (1932), ac yn 32 oed fe’i penodwyd i gadair athroniaeth Aberystwyth, cadair y bu ynddi o 1932 hyd 1969. Gyda’i sêl dros hybu athroniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, sefydlodd adran athronyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru yn 1931, a chychwyn y cyfnodolyn Efrydiau Athronyddol yn 1938. Ei brif gyhoeddiadau yw John Locke (1937) a The Theory of Universals (1952). Fel cadeirydd Cyngor Cymru a Mynwy yn y 1960au, bu ganddo ran allweddol yn y gwaith o lunio Adroddiad ar yr Iaith Gymraeg Heddiw (1963), adroddiad arloesol yn ei bwyslais ar y cysyniad o statws swyddogol i’r iaith. A’i enw yn dechrau gyda dwy ‘a’, y cofnod arno ef oedd y cyntaf yn Who’s Who – mater o gryn falchder iddo.