Gwybodaeth am Llenyddiaeth Cymru
Yr Academi Gymreig yw’r Asiantaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth Genedlaethol a’r Gymdeithas i Awduron. Mae’r Academi yn rhedeg cyrsiau, cystadlaethau (gan gynnwys Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd), cynadleddau, gweithgareddau ar gyfer Diwrnod y Llyfr, Gwyl Tŷ Newydd, Maes C yr Eisteddfod, teithiau gan awduron, ymweliadau cyfnewid rhyngwladol, digwyddiadau ar gyfer ysgolion, darlleniadau, perfformiadau llenyddol a gwyliau. Yn ddiweddar, etifeddodd yr Academi gyfrifoldeb y CCC am Wasanaethau i Awduron ac yn awr maent yn cynnig ysgoloriaethau, cyngor beirniadol ac yn gweinyddu gobr flynyddol Llyfr y Flwyddyn. Mae’n gweithio ar y cyd â Thŷ Newydd, y ganolfan breswyl i awduron ger Cricieth.
Ym 1998 enillodd y Gymdeithas y cytundeb gan Gyngor Celfyddydau Cymru i sefydlu Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol. Bellach mae’r Academi, ar ei gwedd newydd ac ehangach, yn gweinyddu cynllun Awduron ar Daith Cymru, amrywiaeth o Gynlluniau Preswyl i awduron, prosiectau datblygu a Sgwadiau ’Sgwennu i Bobl lfainc, ac mae’n cynnig cymorth i’r rhai hynny sy’n trefnu eu rhaglenni llenyddol eu hunain. Er mwyn cyflawni’r gwaith hwn mae gan yr Academi swyddfeydd yng Nghaerdydd a swyddogion maes sy’n gweithio yng Ngogledd a Gorllewin Cymru. Mae’r Academi yn hyrwyddo ei digwyddiadau ei hun, gan gynnwys g?yl lenyddol flynyddol yn Nhŷ Newydd, ac yn cynhyrchu A470, cylchgrawn chwarterol sy’n llawn newyddion llenyddol o bob cwr o Gymru.
Mae rhaglen gyhoeddi’r Academi yn cynnwys Taliesin, cylchgrawn llenyddol yn y Gymraeg, y New Welsh Review, prif gylchgrawn llenyddol Cymru yn Saesneg (ar y cyd â Chymdeithas Prifysgolion Cymru), y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a’r Oxford Companion to the Literature of Wales, Geiriadur yr Academi, ac amryw o gyfieithiadau. Gyda chefnogaeth cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, cyhoeddwyd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig gan Wasg Prifysgol Cymru. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.


