Gwybodaeth i Awduron

Darllen Barddoniaeth – Sut i fynd ati?

Mae darllen barddoniaeth ar goedd yn gofyn am ychydig o ymarfer. Dechreuwch trwy wrando ar y ffordd mae eraill yn ei wneud. Ewch i ddigwyddiadau lleol, gwrandewch ar recordiadau o’r mawrion. Mae digon o dapiau o Dylan Thomas, yr arch-ddatgeiniad a effeithiodd ar genhedlaeth gyfan, ar gael. Efallai yr hoffech wrando hefyd ar T. James Jones, Wendy Cope, Gerallt Lloyd Owen a Roger McGough. Dydy pawb ddim yn darllen yr un fath. Mae’r perfformwyr - Twm Morys, Ifor Thomas, Ifor ap Glyn, Elinor Wyn Reynolds, John Hegley - yn swnio’n llawn hyder. Mae’r hen do - Dannie Abse, Dic Jones, Gillian Clarke, Emyr Jones - yn swnio cystal ag erioed. Cewch gyngor yng nghyfrol Betty Mulcahy, How To Speak A Poem (Autolycus Press) ar ddarllen cyhoeddus ffurfiol. Mae blodeugerdd Ted Hughes, By Heart: 101 Poems To Remember (Faber) yn cynnig awgrymiadau ynghylch rhoi barddoniaeth ar gof a chadw (petaech am ddefnyddio’r dull hwnnw) ynghyd â detholiad da o enghreifftiau i’w hymarfer. Os oeddech yn arfer cystadlu mewn ’Steddfodau, cofiwch fod darllen gwaith pobl eraill yn wahanol i ddarllen eich gwaith eich hun.

Mae cael gwahoddiad i roi darlleniad yn fater arall. Mae angen bod yn enw cyn i’r rhai mawr ofyn ichi. Ond mae digwyddiadau lleol sy’n agored i awduron yn ddigon cyffredin. Chwiliwch yn eich llyfrgell leol.  Edrychwch ar y rhestr digwyddiadau ar-lein ar wefan Llenyddiaeth Cymru. Ewch i wrando ac yna gofynnwch a gewch chi berfformio. Mae stompiau’n llefydd da i ddechrau.

Wedi i chi gyrraedd y llwyfan a chithau’n wynebu’r gynulleidfa, mae ychydig o bwyntiau y dylech eu cofio er mwyn i bethau fynd yn iawn:

1. Paratowch eich detholiad ymlaen llaw. Peidiwch â dibynnu ar hap a damwain a cheisio penderfynu beth i’w ddarllen nesaf yn y fan a’r lle.

2. Paratowch rywbeth cryno i’w ddweud i gyflwyno pob darn. Yn aml, mae gan gynulleidfa lawn cymaint o ddiddordeb yn y pethau a ddywedwch rhwng y cerddi ag yn y cerddi eu hunain.

3. Dylech wybod faint o amser bydd y cyfan yn ei gymryd. Peidiwch â pharablu’n ddiddiwedd. Gwell eu gadael yn dyheu am ragor.

4. Os oes gennych lyfr ar werth, dywedwch wrthynt, ac ar ôl dweud, dywedwch eto.

5. Gollyngwch eich ysgwyddau, symudwch eich pen yn ôl i orffwys ar ben eich asgwrn cefn, a darllenwch i smotyn yng nghefn yr ystafell. Bydd pob copa walltog yn meddwl mai iddo ef, neu iddi hi, yr ydych yn darllen.

6. Peidiwch â gwisgo sbectol dywyll. Rhaid bod lygad yn llygad.

7. Ceisiwch beidio â thryforio trwy eich papurau (na’u gollwng). Defnyddiwch fwrdd neu ddarllenfwrdd os credwch y bydd eich dwylo’n crynu.

8. Anadlwch yn ddwfn a chwythu.

Mae’r gylchdaith darllen barddoniaeth yn llawn o gynulleidfaoedd bychain, trefnwyr amatur a digwyddiadau sy’n gwrthdaro. Unwaith y byddwch arni, byddwch yn barod i bron unrhyw beth dan haul fynd o chwith. Os gofynnir ichi ddarllen gan gynnig ffi ichi, mynnwch gael y cyfan ar ddu a gwyn. Ymhle, pryd, gyda phwy, am ba hyd, ac am faint. Holwch pa dreuliau a gewch a ble y byddwch yn aros. Holwch ymlaen llaw, a gadael cyn lleied i siawns ag y bydd modd.

Cyhoeddwyd fersiwn cynharach o’r cyngor gwreiddiol hwn yn How To Publish Your Poetry, Peter Finch (Allison & Busby).