Gwobr y flwyddyn nesaf

Dyfernir gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru, yn flynyddol i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.
Dyfernir y gwobrwyon i’r llyfrau gorau a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr. Yn 2013, fe wobrwyir cyfrol Gymraeg a Saesneg a gyhoeddir yn ystod 2012.
O wobr 2012 ymlaen, bydd gwobr Llyfr y Flwyddyn yn cael ei feirniadu mewn categorïau: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Cyhoeddir Rhestr Fer o dri teitl yr un ymhob categori. Yn y Seremoni Wobrwyo, gwobrwyir enillydd ymhob categori, ac yna bydd un o'r rheini hefyd yn ennill y teitl Llyfr y Flwyddyn 2012.
Y dyddiad olaf byddwn yn derbyn llyfrau cymwys ar gyfer gwobr 2013 fydd 14 Rhagfyr 2012 (i'r cyfrolau a gyhoeddir rhwng Ionawr a Thachwedd 2012), a 18 Ionawr 2013 (i'r cyfrolau a gyhoeddir ym mis Rhagfyr 2012).
Bydd rhagor o wybodaeth am wobr 2012 yn ymddangos yma cyn hir…


