Gwobr 2011

Enillydd  - Ned Thomas, Bydoedd: Cofiant Cyfnod (Y Lolfa)


Cloud Road gan John Harrison a gyhoeddwyd gan Parthian a enillodd y wobr Saesneg.  


Y Rhestr Fer

Angharad Price, Caersaint (y Lolfa) 
Dewi Prysor, Lladd Duw (Y Lolfa) 
Ned Thomas, Bydoedd (Y Lolfa)  

   
 

Yr awduron ar y Rhestr Fer Saesneg oedd Alastair Reynolds am ei nofel Terminal World (Gollancz), Pascale Petit am ei chasgliad barddoniaeth What The Water Gave Me (Seren) a
John Harrison am ei nofel daith Cloud Road (Parthian).


Y Rhestr Hir

Tony Bianchi, Cyffesion Geordie Oddi Cartref (Gwasg Gomer)
Hywel Gwynfryn, Hugh Griffith (Gwasg Gwynedd)
Elin Haf, Ar Fôr Tymhestlog (Gwasg Carreg Gwalch)
Jerry Hunter, Gwenddydd (Gwasg Gwynedd)
William Owen, Cân yr Alarch (Y Lolfa)
Angharad Price, Caersaint (y Lolfa)
Dewi Prysor, Lladd Duw (Y Lolfa)
Gwyn Thomas, Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningos Tjioclet (Cyhoeddiadau Barddas)
Ned Thomas, Bydoedd (Y Lolfa)
Gareth F Williams, Creigiau Aberdaron (Gwasg Gwynedd)


Y Beirniaid

Simon Brooks

Simon BrooksAwdur, newyddiadurwr ac academydd. Sefydlydd y cylchgrawn tu chwith ar y cyd ag Elin Llwyd Morgan, a golygydd y cylchgrawn Barn am ddeng mlynedd, o 1996 hyd at 2006. Mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau gan gynnwys Yr Hawl i Oroesi ac O Dan Lygaid y Gestapo, sef astudiaeth o theori lenyddol Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif, a fu ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005. Mae’n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

 

 Gerwyn Wiliams

Gerwyn WiliamsBardd a beirniad llenyddol. Bardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Nedd a’r Cyffiniau 1994, ac awdur tair cyfrol o gerddi. Dyfarnwyd ei astudiaeth o ryddiaith y Rhyfel Byd Cyntaf, Tir Neb, yn Llyfr y Flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru ym 1997. Un o olygyddion Taliesin rhwng 1993 a 1998. Ers 2009, ef yw golygydd Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru. Mae'n Athro yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

 

 Kate Crockett

Kate CrockettAeth i’r Brifysgol yn Aberystwyth gan ennill BA ac yna M.Phil mewn Llenyddiaeth Gymraeg. Bellach mae’n newyddiadura ac yn cyfieithu ar ei liwt ei hun, ar ôl cyfnodau yn gweithio i HTV, y BBC a’r elusen Achub y Plant. Mae wedi cyfrannu’n gyson i raglenni teledu a radio yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n adolygu llyfrau i gyhoeddiadau megis Barn a gwefan y BBC. Kate yw cyflwynydd rhaglen gelfyddydol BBC Radio Cymru, Stiwdio.

 

Y beirniaid ar y panel Saesneg oedd Jon Gower, Francesca Rhydderch a Deborah Kay Davies.